Rupert Murdoch
Nid yw Rupert Murdoch “yn berson cymwys” i redeg cwmni rhyngwladol, medd pwyllgor o Aelodau Seneddol heddiw.

Mewn adroddiad damniol i’r helynt hacio ffonau yn y News of the World, mae’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon wedi cyhuddo pennaeth News Corp o anwybyddu’r hyn oedd yn mynd ymlaen o fewn y cwmni.

Dywedodd y pwyllgor bod News Corp yn euog o “fethiannau enfawr” wrth reoli’r gorfforaeth a’u bod wedi ceisio cuddio yn hytrach na datgelu camweithredu o fewn y cwmni ac wedi methu disgyblu’r rhai oedd yn gyfrifol.

Mae’r adroddiad hefyd yn cyhuddo tri o brif swyddogion News International, sef adran cyhoeddi papurau newydd News Corp yn y DU – Les Hinton, Colin Myler a Tom Crone – o gamarwain y pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad i’r helynt.

Dywedodd y pwyllgor bod mab Rupert Murdoch, James, wedi dangos “anwybodaeth fwriadol” ynglŷn â’r hyn oedd yn digwydd yn y News of the World.