Gareth Williams
Fe fethodd MI6 â throsglwyddo llawer o eiddo Gareth Williams i Scotland Yard yn ystod eu hymchwiliad manwl i farwolaeth yr ysbïwr o Fôn, clywodd y cwest heddiw.

Clywodd ymchwilwyr am y tro cyntaf ddoe fod y gwasanaethau cudd wedi dod ar draws cof biniau cyfrifiadurol yn ei swyddfa, a bag North Face tebyg i’r un lle darganfuwyd corff Gareth Williams.

Bu MI6 hefyd yn archwilio “cyfryngau electroneg” Gareth Williams heb ddweud wrth yr heddlu, meddai’r swyddog fu’n arwain yr ymchwiliad.

Gofynnodd cyfreithiwr y teulu, Anthony O’Toole, i’r Ditectif Brif Arolygydd Jackie Sebire os dylai fod wedi cael gwybod am yr eiddo yn ôl yn 2010.

Dywedodd wrth Lys y Crwner San Steffan y byddai wedi “disgwyl cael gwybod” amdanyn nhw.

Dywedodd hefyd nad oedd ganddi unrhyw syniad am fodolaeth y cof biniau yn ei swyddfa.

“Yr hyn ro’n i’n ei wybod oedd bod cyfrifon e-bost Gareth wedi cael eu harchwilio, ond doeddwn i ddim yn gwybod bod cyfryngau eraill hefyd wedi cael eu harchwilio,” meddai.

Dywedodd nad oedd hi’n “synnu” fod Gareth Williams wedi gadael cof biniau yn ei swyddfa, “o ystyried ei waith.”

Mae’r cwest wedi cyrraedd diwrnod olaf yr ymchwiliad i farwolaeth y dyn 31 oed o Ynys Môn, a fu farw ym mis Awst 2010.

Cafodd Gareth Williams ei ddarganfod yn noeth, mewn bag wedi ei gloi â chlo clap, yn y bath yn ei fflat yn Pimlico, canol Llundain.

Ddoe, dywedodd patholegwyr y byddai wedi mygu o fewn tair munud o gael ei roi yn y bag.

Hyd yn hyn, mae’r arbenigwyr yn weddol gytûn mai mygu neu gael ei wenwyno gwnaeth yr ysbïwr.