Mae saith o bobl wedi cael eu harestio heddiw ar amheuaeth o ariannu terfysgaeth, yn ôl Scotland Yard.
Roedd swyddogion o adran wrth-derfysgaeth Heddlu’r Metropolitan wedi arestio chwe dyn a dynes mewn tai yng Nghaerdydd, Llundain a Coventry am 6am bore ma.
Maen nhw i gyd yn cael eu holi mewn gorsaf yr heddlu yn Llundain ar amheuaeth o fod yn gysylltiedig ag ariannu sefydliad terfysgol.
Ymhlith y rhai gafodd eu harestio o dan y Ddeddf Derfysgaeth 2000 mae dyn 40 oed o Gaerdydd, dynes 45 oed a dyn 49 oed o Croydon, dau ddyn 30 a 47 oed yn Brent, a dau ddyn 42 a 45 oed yn Coventry.