Protest Bronglais tu allan i'r Senedd
Mae cynlluniau gan Lywodraeth Cymru i geisio hyrwyddo eu syniadau i newid y gwasanaeth iechyd i’r cyhoedd wedi cael eu beirniadu’n llym heddiw.
Mae hi wedi dod i’r amlwg fod Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn bwriadu cydweithio ar ymgyrch gyhoeddus i geisio dwyn perswâd ar bobol i dderbyn newidiadau dadleuol i’r Gwasanaeth Iechyd.
Ond mae’r cynllun wedi cael ei ddisgrifio fel un “sinigaidd a di-chwaeth” gan Blaid Cymru, sy’n poeni mai’r dacteg fydd tanseilio’r gwasanaeth presennol er mwyn gwthio’r angen am newid.
Yn ôl Elin Jones, llefarydd iechyd Plaid Cymru, mae’r cynlluniau wedi “datgelu bwriad Llywodraeth Lafur Cymru i israddio ysbytai – maen nhw eisiau tanseilio hyder y cyhoedd yn eu gwasanaeth iechyd er mwyn iddyn nhw fedru cyflwyno cynlluniau niweidiol.”
‘Codi bwganod’
Mae’r cynlluniau posib i israddio a chanoli’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu mewn ysbytai yng Nghymru wedi wynebu gwrthwynebiad chwyrn yn ddiweddar, ac mae llawer o wrthwynebwyr wedi mynd â’u protest at risiau’r Senedd ym Mae Caerdydd.
Diwedd Chwefror, bu 600 o bobol yn protestio tu allan i’r Senedd yn erbyn cynlluniau posib i israddio gwasanaethau yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, a bu 200 yn protestio yno ddechrau Mawrth yn erbyn israddio gwasanaethau yn ysbyty’r Tywysog Phillip, Llanelli.
Ond heddiw mae Plaid Cymru yn rhybuddio fod gan y Llywodraeth dacteg newydd ar waith, sef rhoi enw gwael i’r gwasanaeth iechyd presennol er mwyn cryfhau ei hachos dros gyflwyno newidiadau.
“Dyma dacteg codi bwganod sinigaidd a di-chwaeth gan Lafur, a bydd pobol ar draws Cymru yn arswydo i weld eu bod nhw’n barod i ddisgyn mor isel er mwyn cael eu ffordd eu hunain,” meddai Elin Jones.
“Beth mae hyn yn profi yw nad yw’n gwasanaeth iechyd yn ddiogel yn nwylo Llafur – y peth lleiaf y mae pobol Cymru yn ei haeddu nawr yw bod y Llywodraeth yn bod yn agored am natur y toriadau y maen nhw eisiau eu cyflwyno.”
Dywedodd llefarydd ar ran y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, heddiw fod “Llywodraeth Cymru eisiau diogelu gwasanaethau cynaliadwy i gleifion. Dydyn ni’n ymddiheuro dim am wneud hynny, ac r’yn ni wedi dweud yn gyson mai dyna’n amcan ni.
“Os nad yw’r gwrthbleidiau yn rhannu’r amcan hyn, ac yn dewis troi’r mater difrifol hwn yn stynt cyn etholiad, mae hi fyny iddyn nhw esbonio’u hunain i bobol Cymru.”