Christine Chapman
Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad wedi dweud bod angen gwneud mwy i amddiffyn plant rhag yr haul, ond na ddylai ysgolion ddarparu eli haul am ddim i blant.
Cynhaliodd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ymchwiliad mewn ymateb i ddeiseb gan elusen ganser Tenovus, a oedd yn galw am ddarparu eli haul am ddim i bob plentyn yng Nghymru dan 11 oed.
Penderfynodd y Pwyllgor i beidio cefnogi rhoi eli haul am ddim. Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth y Pwyllgor y gallai’r cynnig gostio £3.4 miliwn y flwyddyn a mynegodd Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon bryder y byddai’n rhaid i’w haelodau roi eli ar gyrff plant.
‘Addysgu am effeithiau’r haul yn bwysicach’
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, Christine Chapman AC, fod y Pwyllgor wedi clywed fod “addysg a darparu gwybodaeth yn bwysicach wrth amddiffyn pobl rhag effeithiau pelydrau’r haul.”
“Rydym ni’n croesawu’r gwaith y mae sefydliadau fel Tenovus yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o ganser y croen ac i leihau nifer yr achosion, ac rydym ni’n teimlo y byddai mwy o gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a’r asiantaethau perthnasol yng Nghymru yn gwneud llawer i oresgyn y broblem,” meddai Christine Chapman.
“Rydym o’r farn bod y polisïau a’r canllawiau fel y rhai a geir yn Herio’r Haul [canllawiau Cancer Research UK] yn ddigonol ond bod angen eu hyrwyddo a’u monitro yn well i sicrhau bod dealltwriaeth ohonynt ar led a’u bod yn cael eu defnyddio’n gyson.”
Bydd adroddiad y Pwyllgor yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru i’w ystyried.