Cafodd rhan o ffordd osgoi Wrecsam ei chau neithiwr i gyfeiriad y de ar ôl gwrthdrawiad rhwng wyth car.
Cafodd dynes yn ei chwedegau fân anafiadau yn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd tua 5.10 y prynhawn ar yr A483 ger Gresffordd.
Bu’r heol ar gau i gyfeiriad y de tan 9.10 y nos.