Stereophonics - Llun: Gwefan Stereophonics
Fe fydd y Stereophonics yn cynrychioli Cymru mewn cyngerdd i nodi dechrau’r Gemau Olympaidd.

Bydd y grŵp yn perfformio yn Hyde Park yn Llundain  ynghyd â grwpiau eraill fel Duran Duran, sy’n cynrychioli Lloegr, Snow Patrol o Ogledd Iwerddon, a Paolo Nutini a fydd yn cynrychioli’r Alban.

Gall pobl sy’n mynd i’r cyngerdd ar 27 Gorffennaf wylio seremoni agoriadol Gemau Llundain 2012 yn fyw ar sgriniau enfawr.

Fe fydd tocynnau ar gyfer dathliad BT London Live yn mynd ar werth fore dydd Iau am 9am i gwsmeriaid BT yn unig, ac yna yn cael eu gwerthu’n gyffredinol ddydd Gwener.

Fe fydd cyngerdd arall i nodi diwedd y Gemau Olympaidd yn cael ei gynnal ar 12 Awst gyda Blur yn un o’r prif grwpiau ynghyd â The Specials a New Order. Roedd tocynnau ar gyfer y cyngerdd wedi gwerthu o fewn oriau.

Nôl i’r 80au

Mae ’na gryn feirniadaeth wedi bod bore ma am y penderfyniad i gael Duran Duran i gynrychioli Lloegr yn y cyngerdd.  Roedd y grŵp yn eu hanterth yn yr 80au, ond ers hynny ychydig iawn o lwyddiant mae grŵp Simon Le Bon, 53, wedi ei gael yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf.

Roedd nifer o bobl wedi bod yn trydar eu sylwadau heddiw gan gynnwys yr awdur a’r darlledwr Tony Parsons.

Ysgrifennodd: “Duran Duran i berfformio yn gig yr Olympics. Pwy sy’n rhedeg y 1500 metr –  Sebastian Coe a Steve Ovett?”