Robert Redford
Mae seren Hollywood Robert Redford wedi canmol Tywysog Cymru i’r cymylau a’i alw’n “anhygoel”, wrth i’r ddau ymddangos gyda’i gilydd yn yr Ŵyl Ffilm a Cherddoriaeth Sundance gyntaf yn Llundain.

Roedd y ddau yn ymddangosiad cyntaf y ffilm Harmony: A New Way of Looking at the World. Mae Tywysog Cymru yn ymddangos yn y ffilm ac yn cyflwyno’r stori.

Mae’r ffilm yn sôn sut y mae’r Tywysog wedi gweithio gyda’r rhai sy’n poeni am yr amgylchedd, arweinwyr buses a gwleidyddol, artistiaid a phenseiri, i edrych ar yr argyfwng amgylcheddol ac economaidd, gan chwilio am ffordd fwy cynaliadwy i fyw.

Dywedodd Robert Redfod ei fod yntau a’r Tywysog yn rhannu’r un teimlad am bwysigrwydd yr amgychledd a chynaladwyedd sy’n mynd nôl dros nifer o flynyddoedd.

“Mae’r consyrn yna wedi cael ei ddangos trwy weithredu. Mae’r hyn mae Tywysog Charles wedi ei wneud i ymrwymo ei hun i’r ddelfryd yna wedi bod yn anhygoel,” meddai Redford.

“Mae’n gyfrifoldeb arnon ni i gyd i wneud be fedrwn ni i gynnal cynaladwyedd.”

Dywedodd y Tywysog fod y ffilm hon yn ceisio dangos bod ffordd arall o edrych ar bethau. “Rydym wedi cario mlaen gyda’r agwedd 19eg ganrif yn rhy hir,” meddai. “Rydym yn darganfod yn awr bod rhai cyfyngiadau mewn bod ac mae angen i ni edrych ar y rhain eto.”