Mae Heddlu Gwent wedi lansio apêl am wybodaeth yn dilyn lladrad arfog mewn bwyty Indiaidd yng Nghaerffili.

Dywed yr heddlu bod dau ddyn yn gwisgo mygydau ac yn cario morthwyl a gwn wedi mynd mewn i’r Taste of India yn Stryd Fawr, Pentwynmawr neithiwr ac wedi mynnu arian gan y staff.

Fe lwyddodd y ddau i ddianc gyda swm sylweddol o arian gan redeg i ffwrdd i gyfeiriad caeau chwarae gerllaw.

Fe ddigwyddodd y lladrad tua 9.50pm nos Sul pan oedd tri aelod o staff yn y bwyty.

Mae’r ddau yn cael eu disgrifio yn eu hugeiniau ac o faint canolig. Roedden nhw’n gwisgo cotiau glaw tywyll a sgarffiau yn gorchuddio’u hwynebau.

Roedd un yn cario morthwyl a’r lladd yn cario dryll, meddai’r heddlu.

Ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn y digwyddiad.

Mae’r heddlu’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw. Y rhifau i’w ffonio yw 101 neu Daclo’r Taclau ar 0800 555111.