Ched Evans
Mae clwb pêl-droed Sheffield United wedi dweud heddiw eu bod nhw’n ymchwilio i sylwadau a wnaed gan chwaraewr yn dilyn dedfrydu Ched Evans.
Mae’r clwb wedi cadarnhau bod ymchwiliad mewnol ar waith ynglyn â sylwadau a wnaed ar gyfrif Twitter cyd-chwaraewr Ched Evans yn Sheffield Utd, Connor Brown. Roedd y sylwadau honedig yn sarhau’r ferch wnaeth ddwyn achos yn erbyn Ched Evans, sy’n enedigol o Lanelwy.
Ddydd Gwener, cafodd Ched Evans ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar am dreisio merch 19 oed a oedd yn “rhy feddw i gydsynio i gael rhyw.”
Dywedodd llefarydd ar ran clwb Sheffield United, eu bod yn “ymwybodol o fater difrifol iawn ynghylch sylwadau ar gyfrif Twitter un o’r chwaraewyr. O ganlyniad rydyn ni wedi lansio ymchwiliad.”
Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio
Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd wedi rhybuddio pobol i fod yn ofalus wrth wneud sylwadau ar-lein yn dilyn dedfrydu Ched Evans.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Steve Williams fod Heddlu Gogledd Cymru yn “ymwybodol o adroddiadau am sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol, ac yn casglu’r wybodaeth berthnasol ynghyd.
“Os bydd rhywun yn troseddu ar y gwefannau hyn, fe fyddwn ni’n delio â nhw. Mae hwn yn fater hynod o annifyr ac rydyn ni’n benderfynol o ganfod y sawl sy’n gyfrifol,” meddai.
“Rwy’n cynghori pobol sy’n trydar neu’n ysgrifennu sylwadau statws i ystyried goblygiadau’r hyn maen nhw’n ei ysgrifennu ac i werthfawrogi y gallen nhw fod yn esgusodi’r ymddygiad ac yn ychwanegu at trawma’r ferch hon.”