Aberystwyth 3–2 Y Drenewydd

Mae dyfodol Aberystwyth yn yr Uwch Gynghrair yn ddiogel o drwch blewyn yn dilyn buddugoliaeth dros y Drenewydd ar Goedlan y Parc brynhawn Sadwrn.

Peniodd Shane Sutton yr ymwelwyr ar y blaen wedi dim ond deg munud ond roedd Aber yn gyfartal ddau funud yn ddiweddarach diolch i gôl i’w rwyd ei hun gan Connor Courtney.

Roedd y tîm cartref ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner wedi i Geoff Kellaway ymateb yn gynt na neb wedi i ergyd Michael Walsh daro’r trawst.

Roedd y Drenewydd yn gyfartal eto wedi 68 munud diolch i ergyd Nick Rushton ond pharodd hynny ddim yn hir wrth i ail chwaraewr y Drenewydd sgorio i’w rwyd ei hun. Ond doedd yr ymwelwyr ddim yn hapus achos roedd amheuaeth os oedd y bêl wedi croesi’r llinell ar ôl adlamu oddi ar Andy Jones ond doedd Aberystwyth ddim yn cwyno wrth i’r gôl honno sicrhau’r tri phwynt iddynt.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Aberystwyth dros Lido Afan a Phort Talbot i’w wythfed safle ar wahaniaeth goliau, a gall hynny olygu lle yn y gemau ail gyfle o hyd os fydd apêl Castell Nedd am drwydded yn methu. Mae’r Drenewydd ar y llaw arall yn gorffen ar waelod y tabl ond mae gandddynt rownd derfynol Cwpan y Gynghrair i edrych ymlaen ati’r wythnos nesaf.

Lido Afan 1–2 Airbus

Sgoriodd Jonathon Bathurst ddwywaith wrth i Airbus guro Lido Afan o 2-1 yn Stadiwm Marstons.

Daeth y gyntaf wedi dim ond 14 munud a’r ail wedi 54 munud ac roedd hi’n amlwg fod golygon Lido eisoes wedi troi at eu gêm yn rownd derfynol Cwpan y Gynghrair yn erbyn y Drenewydd yr wythnos nesaf.

Wedi dweud hynny, fe lwyddodd Carl Payne i sgorio gôl gysur i’r tîm cartref dri munud o’r diwedd.

Mae’r fuddugoliaeth yn cadw Airbus yn y seithfed safle ac yn sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle. Ond er gwaethaf tymor cyntaf gwych mae Lido Afan yn gorffen yn ddegfed gyda gwahaniaeth goliau yn unig yn eu gwahanu hwy a Chaerfyrddin yn yr unfed safle ar ddeg.

Port Talbot 0–1 Caerfyrddin

Dim ond un gôl oedd ei hangen ar Gaerfyrddin i guro Port Talbot yn Stadiwm GenQuip ar y Sadwrn olaf ond bu rhaid i’r Hen Aur aros i weld os fydd y fuddugoliaeth yma’n ddigon i’w cadw yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.

Daeth unig gôl y gêm hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf a thipyn o gôl oedd hi hefyd. Derbyniodd Corey Thomas y bêl 30 llath allan cyn taro ergyd berffaith heibio i Kristian Rogers yn y gôl i’r tîm cartref. Gôl a oedd yn haeddu ennill unrhyw gêm ond a fydd hi’n gôl sydd yn haeddu cadw Caerfyrddin yn y gynghrair, bydd rhaid aros i weld.

Mae Caerfyrddin yn gorffen yn yr unfed safle ar ddeg er gwaethaf y fuddugoliaeth ac mae eu tynged bellach yn nwylo Hwlffordd. Yr Adar Gleision yw un o’r ychydig glybiau ym Mhrif Adran y De sydd wedi sicrhau trwydded ar gyfer y tymor nesaf ac os allant orffen yn y ddau uchaf byddant yn esgyn i’r Uwch Gynghrair gan gymryd lle Caerfyrddin. Mae Port Talbot yn disgyn un lle gan orffen y tymor yn y nawfed safle.

Y Seintiau Newydd 5–0 Bangor

Y Seintiau Newydd yw’r pencampwyr wedi iddynt roi crasfa iawn i Fangor o flaen camerâu Sgorio brynhawn Sadwrn. Sgoriodd Greg Draper hatric ac ychwanegodd Chris Seargeant a Ryan Fraughan wrth i’r tîm cartref ennill yn gyfforddus ar Neuadd y Parc.

Castell Nedd 1–5 Llanelli

Gorffennodd Llanelli dymor cymysglyd mewn steil gyda buddugoliaeth swmpus dros eu gelynion lleol, Castell Nedd. Sgoriodd y Cochion bump yn yr hanner cyntaf cyn i’r Eryrod dynnu un yn ôl wedi’r egwyl.

Agorodd Stuart Jones y sgorio wedi 14 munud cyn Rhys Griffiths ddyblu’r fantais saith munud yn ddiweddarach.

Roedd hi’n dair toc cyn hanner awr o chwarae diolch i Lloyd Grist ac yn bedair yn fuan wedyn wrth i Griffiths rwydo’i ail. Yna cwblhaodd Chris Venables 22 munud anhygoel gyda’r bumed wedi 36 munud.

Mae dwy gôl Griffiths yn sicrhau seithfed Esgid Aur i’r blaenwr wrth iddo orffen y tymor gyda 24 gôl, dwy yn fwy na blaenwr y Seintiau, Greg Draper.

Dim ond wyth mae blaenwr Castell Nedd, Lee Trundle, wedi sgorio a gôl gysur yn unig oedd yr wythfed o’r rheiny toc wedi’r awr yn y gêm hon.

Nid yw’r canlyniad hwn yn newid dim yn y tabl wrth i Gastell Nedd orffen y tymor yn drydydd dri phwynt o flaen Llanelli yn y pedwerydd safle.

Prestatyn 1–2 Y Bala

Sgoriodd Lee Hunt gôl hwyr i ennill y gêm i’r Bala oddi cartref yng Ngerddi Bastion yn erbyn Prestatyn.

Crymanodd Mark Connolly gic rydd wych i gefn y rhwyd wedi 19 munud i roi’r ymwelwyr ar y blaen cyn i Ross Stephens unioni i’r tîm cartref wedi 71 munud.

Ond torwyd calonnau Prestatyn pan beniodd eu cyn chwaraewr, Lee Hunt, y gôl fuddugol heibio i David Roberts 14 munud o’r diwedd.

Gorffennodd y ddau dîm gyda deg dyn yn dilyn cardiau coch i Rhys Owen a Ross Jeffries yn yr hanner cyntaf a bu oedi hir tuag at ddiwedd y gêm yn dilyn gwrthdrawiad cas rhwng Gareth Wilson a Peter Doran.

Nid yw’r canlyniad hwn yn effeithio safleoedd terfynol y ddau dîm yn y gynghrair wrth i’r Bala orffen yn bumed a Phrestatyn yn chweched. Dim ond un safle ond 21 pwynt yn gwahanu’r ddau dîm wedi ail hanner trychinebus i dymor Prestatyn.