Gleision 34–13 Caeredin

Ffarweliodd Stadiwm Dinas Caerdydd â llu o chwaraewyr y Gleision gyda buddugoliaeth yn erbyn Caeredin yn y RaboDirect Pro12 brynhawn Sul. Sgoriodd Alex Cuthbert dri o chwe chais y Gleision wrth iddynt chwalu ail dîm Caeredin i bob pwrpas.

Hanner Cyntaf

Rhoddodd Phil Godman yr ymwelwyr ar y blaen gyda chic gosb gynnar cyn i’r Gleision ddechrau rheoli’r gêm.

Ond bu rhaid i’r tîm cartref aros 18 munud am y cais cyntaf a daeth hwnnw i’r mewnwr, Lloyd Williams. Sicrhawyd pêl gyflym yn dilyn bylchiad Casey Laulala a gwthiodd Williams drosodd o ddwy fedr. Llwyddodd Ben Blair gyda’r trosiad i roi pedwar pwynt o fantais i’r Gleision hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.

Parhau i reoli a wnaeth y Gleision a daeth yr ail gais yn haeddianol funud cyn yr egwyl. Ceisiodd Caeredin dafliad hir mewn lein amddiffynnol ond dwynodd y Gleision cyn ei lledu i Alex Cuthbert ar yr asgell dde i groesi ar gyfer cais rhwydd. Methodd Blair y trosiad ond roedd gan y Gleision naw pwynt o fantais ar yr egwyl.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ail hanner yn debyg iawn i’r cyntaf, gyda thri phwynt o droed Godman. Gôl adlam oedd y dull y tro hwn ac roedd yr Albanwyr yn ôl o fewn un sgôr wedi tri munud o’r ail hanner.

Ond fel yn yr hanner cyntaf yn ôl y daeth y Gleision gyda chais. 50 munud oedd ar y cloc pan groesodd Cuthbert am ei ail a thrydydd ei dîm. Cymerodd Lloyd Williams gic gosb gyflym a lledwyd y bêl i Cuthbert ar yr asgell. Roedd gan yntau ddigon i’w wneud o hyd ond torodd ddwy dacl cyn croesi yn y gornel. Methodd Blair y trosiad ond roedd dwy sgôr yn gwahanu’r timau unwaith eto, 17-6.

Fu dim rhaid aros yn hir am y pedwerydd cais a’r pwynt bonws wedyn, daeth hwnnw wedi 54 munud. Sefydlodd y Gleision sgarmes symudol ar ôl sicrhau’r bêl yn y lein a hyrddiodd yr wythwr ifanc dros y gwyngalch, 24-6 yn dilyn trosiad Blair.

Daeth y pumed cais toc cyn yr awr pan groesodd Cuthbert am y trydydd tro. Derbyniodd y bêl yng nghanol y cae ac roedd ymdrechion amddiffyn Caeredin i’w daclo yn wan, 31-6 yn dilyn trosiad Blair.

Doedd Caeredin ddim am i’r Gleision gael yr hwyl i gyd a sgoriodd yr eilydd faswr, Harry Leonard, gais unigol gwych wedi 67 munud. Curodd y llinell amddiffynnol gyda chic a chwrs daclus cyn tirio a throsi ei gais ei hun, 31-13 gydag ychydig dros ddeg munud i fynd.

Ond y Gleision a gafodd y gair olaf gyda chais da arall ddau funud o’r diwedd. Bylchodd yr eilydd fachwr, Kristian Dacey, yn effeithiol cyn dadlwytho i’r blaenasgellwr, Josh Navidi, i sgorio. 38-13 y sgôr terfynol yn dilyn pedwerydd trosiad llwyddianus Ben Blair.

Ymateb

Mae’r Gleision yn aros yn seithfed yn y Pro12 er gwaethaf y pum pwynt ond roedd hi’n gêm dda i ffarwelio â chymaint o chwaraewyr y rhanbarth.

Hon oedd gêm gartref olaf llu o ffefrynnau’r Gleision megis Martyn Williams a Gethin Jenkins ond bydd cefnogwyr y rhanbarth a chefnogwyr Cymru yn gobeithio na fydd seren y gêm, Alex Cuthbert, yn eu dilyn trwy’r drws. Ond braidd yn anelwig oedd yr asgellwr wrth siarad ar ddiwedd y gêm:

“Mae’r trafodaethau’n parhau ond dwi’n gobeithio y gall pethau gael eu setlo’r wythnos yma. Mae gen i lawer o bethau i feddwl amdanynt, fy nheulu ac ati, ond dwi’n gobeithio setlo’r cyfan yn fuan.”