Scarlets 20–20 Munster
Gorffennodd hi’n gyfartal rhwng y Scarlets a Munster yn Llanelli nos Sadwrn. Ond go brin y bydd dau bwynt yn ddigon i gadw gobeithion y rhanbarth o Gymru o gyrraedd gemau ail gyfle y RaboDirect Pro12 yn fyw.
Sgoriodd Sean Lamont ac Aaron Shingler gais ym mhob hanner i’r tîm cartref ond er pwyso am fuddugoliaeth yn y diwedd bu rhaid iddynt fodloni ar rannu’r pwyntiau.
Hanner Cyntaf
Methodd Ian Keatley gyfle i roi’r ymwelwyr ar y blaen gyda chic gosb gynnar cyn i’r Scarlets sgorio’r cais agoriadol wedi 12 munud.
Dwynodd Bois y Sosban y bêl yng nghysgod pyst eu hunain cyn gwrthymosod yn slic. Cafwyd rhedeg da gan Adam Warren a George North cyn i’r bêl gael ei lledu i Sean Lamont ar yr asgell chwith. Croesodd yntau cyn i Rhys Priestland drosi’r ddau bwynt ychwanegol.
Ond Munster oedd y tîm cryfaf yng ngweddill yr hanner cyntaf a phwysleiswyd hynny gyda dau gais o fewn pum munud hanner ffordd trwy’r hanner.
Daeth y cyntaf i’r blaenasgellwr, Donnacha Ryan, wedi 17 munud yn dilyn llanast gan y Scarlets mewn lein amddiffynnol a thacl wan gan Priestland.
Yr asgellwr, Simon Zebo, oedd sgoriwr yr ail wedi 22 munud ond o lein y deilliodd hwn hefyd. Sefydlodd y blaenwyr sgarmes symudol i osod y sylfaen i Zebo dorri’r llinell amddiffynnol ac ymestyn at y gwyngalch.
Llwyddodd Keatley gyda’r ddau drosiad cyn ychwanegu cic gosb i roi deg pwynt o fantais i’r Gwyddelod, 17-7.
Fe wnaeth Priestland gau’r bwlch i saith pwynt gyda chic gosb ddeg munud cyn yr egwyl ond roedd talcen caled yn wynebu Bois y Sosban yn yr ail hanner.
Ail Hanner
Dechreuodd y Scarlets yr ail hanner yn dda iawn ond daliodd amddiffyn y Gwyddelod yn gryf a methodd y tîm cartref fanteisio ar eu goruchafiaeth. Yn wir, yr ymwelwyr a sgoriodd bwyntiau cyntaf yr ail gyfnod wedi 55 munud diolch i gic gosb Keatley yn dilyn tacl anghyfreithlon Sione Timani.
Ond roedd y Scarlets yn haeddu sgôr a daeth y cais i Aaron Shingler ar yr awr. Cadwyd y bêl am sawl cymal cyn i’r blaenasgellwr redeg ar ongl dda i ddal pas Stephen Jones a hollti amddiffyn Munster. Ychwanegodd Priestland y trosiad i gau’r bwlch i dri phwynt gyda chwarter y gêm ar ôl.
Roedd y Scarlets yn gyfartal ddeg munud o’r diwedd diolch i dri phwynt o droed Priestland. Dim ond newydd ddod i’r cae yr oedd ail reng profiadol Munster, Donncha O’Callaghan, pan ildiodd gic gosb am beidio rhyddhau ei ddyn yn ardal y dacl. Cosbwyd ef gan Priestland, 20-20 gyda deg munud i fynd.
Fe bwysodd y Scarlets yn ddi drugaredd mewn diweddglo cyffrous ond bu rhaid bodloni ar gêm gyfartal a dau bwynt yn y diwedd, dau bwynt na fydd yn ddigon mae’n debyg.
Mae’r Scarlets yn codi i’r pumed safle yn nhabl y Pro12 ac yn gyfartal ar bwyntiau gyda Glasgow yn y pedwerydd safle ond go brin y bydd hynny’n ddigon gan fod gan yr Albanwyr ddwy gêm ar ôl, un yn fwy na Bois y Sosban.
Ymateb
Er yn siomedig gyda’r canlyniad roedd canolwr y Scarlets ar y noson, Stephen Jones, yn ddigon hapus gyda’r perfformiad yn yr ail hanner:
“Siomedig ein bod ni heb ennill y gêm. Roedd yr ail hanner yn llawer gwell o safbwynt perfformiad, yn yr hanner cyntaf fe gollon ni’r bêl rhy rhwydd ac aethon ni ddim trwy’r cymalau, ond roedd yr ail hanner yn llawer gwell.”