Casnewydd 1–0 Alfreton
Mae dyfodol Casnewydd yn Uwch Gynghrair y Blue Square yn ddiogel yn dilyn buddugoliaeth dros Alfreton ar Barc Sbyty brynhawn Sadwrn. Sgoriodd Ramone Rose unig gôl y gêm wrth i Gasnewydd gipio’r tri phwynt sy’n sicrhau eu bod yn aros yn y Gyngres.
Daeth y gôl holl bwysig saith munud cyn yr egwyl pan dderbyniodd Rose groesiad cywir Sam Foley cyn curo Dan Lowson yn y gôl i’r ymwelwyr.
Rheolodd Casnewydd y meddiant trwy gydol y gêm a bu bron i Foley ddyblu’r fantais yn yr ail hanner ond llwyddodd Lowson i arbed.
Cafodd Karl Darlow ei gadw’n ddigon prysur yn y pen arall ond llwyddodd i gadw llechen lân trwy arbed cynigion Paul Clayton a Jake Moult.
Tri phwynt i Gasnewydd felly ac mae hynny’n ddigon i godi tîm Justin Edinburgh dri lle i’r ail safle ar bymtheg yn nhabl Uwch Gynghrair y Blue Square. Gorffen mor uchel a phosib yn y tabl fydd nod Casnewydd bellach felly a pharatoi ar gyfer rownd derfynol Tlws yr FA yn Wembley ar ddiwedd y tymor.