Bolton 1–1 Abertawe

Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi rhwng Bolton ac Abertawe yn yr Uwch Gynghrair brynhawn Sadwrn. Rhoddodd gôl Scott Sinclair fantais gynnar i’r ymwelwyr yn Stadiwm Reebok ond tarodd Chris Eagles yn ôl wedi chwarter awr i gipio pwynt i’r tîm cartref.

Sgoriodd Sinclair wedi dim ond chwe munud ac roedd hi’n dipyn o gôl hefyd. Derbyniodd y bêl ar yr asgell chwith cyn rhedeg tuag at ochr y cwrt cosbi a chrymanu ergyd berffaith i gornel uchaf y rhwyd. Dim gobaith i Adam Bogdan yn y gôl i Bolton a mantais gynnar i’r Elyrch.

Ond wyth munud yn unig a barodd y fantais cyn i Eagles sgorio i’r tîm cartref. Gwrthymosododd Bolton yn gyflym a daeth croesiad Martin Petrov o hyd i Eagles yn y canol a churodd yntau Michel Vorm rhwng y pyst i Abertawe.

Rheolodd Abertawe’r meddiant a bu bron i’w prif sgoriwr, Danny Graham, adfer y fantais ar ddau achlysur yn yr ail hanner gyda dau gynnig digon tebyg.

Crymanodd ergyd droed dde o gornel y cwrt cosbi fodfeddi heibio’r postyn i ddechrau cyn crymanu ergyd debyg iawn yn erbyn y trawst ddeuddeg munud o’r diwedd.

Bu rhaid i Vorm fod yn effro yn y pen arall i atal David Ngog wrth iddi orffen yn gyfartal.

Mae’r pwynt yn codi Abertawe un lle dros Norwich i’r unfed safle ar ddeg yn nhabl yr Uwch Gynghrair.