Y Seintiau Newydd 5-0 Bangor
Y Seintiau Newydd yw pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru yn dilyn buddugoliaeth swmpus yn erbyn eu prif elynion, Bangor, yn Neuadd y Parc brynhawn Sadwrn.
Roedd llawer o edrych ymlaen at y gêm rhwng y ddau dîm ar y brig ond roedd hi fwy neu lai ar ben wedi dim ond saith munud diolch i goliau Greg Draper a Chris Seargeant. Ychwanegodd Draper un arall cyn yr egwyl cyn i Ryan Fraughan a Draper gwblhau’r gweir yn yr ail hanner.
Dechrau Gwych I’r Seintiau
Os oedd tasg anodd yn wynebu Bangor cyn dechrau’r gêm roedd ganddynt fynydd i’w ddringo ar ôl saith munud wedi i’r tîm cartref sgorio dwy gôl gynnar.
Roedd Fraughan yn meddwl ei fod yn haeddu cic o’r smotyn wedi dim ond dau funud o chwarae ond Fraughan ei hunan yn hytrach na gôl-geidwad Bangor, Lee Idzi, a gafodd ei gosbi a hynny am dwyllo.
Ond fu dim rhaid i’r Seintiau aros yn hir am y gôl agoriadol. Pedwar munud oedd ar y cloc pan agorodd amddiffyn Bangor fel y môr coch i roi cyfle gwych i Greg Draper a churodd yntau Idzi gydag ergyd gywir i’r gornel isaf.
Ac roedd hi’n ddwy dri munud yn ddiweddarach diolch i Chris Seargeant. Cafodd Fraughan ei lorio gan Peter Hoy 25 llath allan o’r gôl a chrymanodd Seargeant gic rydd gelfydd i gefn rhwyd ei gyn glwb, 2-0 wedi llai na deg munud.
Y Seintiau’n Parhau i Bwyso
Parhau i bwyso a wnaeth y Seintiau wedi hynny. Cafodd Draper gyfle gwych wedi chwarter awr pan dorodd y trap camsefyll yn rhy hawdd o lawer unwaith eto. Ond braidd yn wastraffus oedd blaenwr Seland Newydd y tro hwn.
Cafodd Alex Darlington gyfle da funud yn ddiweddarach ond braidd yn wan oedd ei beniad ef a llwyddodd Idzi i arbed yn isel i’w chwith.
Bu rhaid i Michael Johnston fod yn ddewr i atal ergyd Draper wedi 21 munud ond methu’n llwyr ag ymdopi ag ymosodwr y tîm cartref a wnaeth amddiffyn Bangor bum munud yn ddiweddarach wrth i Draper ei gwneud hi’n dair. Torodd y trap camsefyll cyn codi’r bêl dros Idzi a’i phenio i mewn i rwyd wag. 3-0 a’r gêm drosodd wedi llai na hanner awr.
Tawelodd pethau rhyw fymryn wedi hynny ond bu rhaid i Idzi arbed wrth i Seargeant drio’i lwc gyda chic rydd o bellter unwaith eto.
Yn y pen arall bu rhaid aros 39 munud am gynnig cyntaf Bangor ond er bod techneg foli Kyle Wilson yn un dda roedd hi’n rhy uchel i achosi problemau i Paul Harrison yn y gôl i’r Seintiau.
Ail Hanner
Roedd Bangor fymryn yn well wedi’r egwyl a chafodd y capten, Brewerton, ddau gyfle cynnar â’i ben. Arbedodd Harrison y cyntaf yn gyfforddus cyn i’r llall fynd yn ddiniwed dros y trawst.
Yn y pen arall bu rhaid i Idzi wneud arbediad da i atal Craig Jones cyn i Fraughan sicrhau’r fuddugoliaeth gyda’r bedwaredd gôl toc wedi’r awr. Rhedodd yr asgellwr yn bwrpasol ac yn dwyllodrus i’r cwrt cosbi cyn ergydio’n galed heibio i Idzi.
Methodd Darlington gyfle i’w gwneud hi’n bump o’r smotyn wedi 70 munud wedi i Brewerton ei lorio yn y cwrt cosbi. Ond daeth cyfle arall i’r Seintiau ddeg munud yn ddiweddarach wedi i Brewerton ildio cic o’r smotyn arall. Draper a gymerodd hon gan sgorio’i drydedd o’r gêm a’i ail gôl ar hugain o’r tymor.
Siom i’r canoedd o gefnogwyr a deithiodd o Fangor felly ond y Seintiau yn cipio’r Uwch Gynghrair yn gwbl haeddianol yn y diwedd.
Ymateb
Roedd Llywydd Anrhydeddus Bangor, Gwyn Pierce Owen, yn siomedig iawn gyda chanlyniad y gêm ond yn hapus iawn gyda tymor y Dinasyddion ar y cyfan:
“Dwi wedi bod yn hapus iawn dros y naw mis dwytha ond yn siomedig dros ben heddiw. Wnaethon ni ddim setlo lawr ac ar ôl dwy gôl yn y saith munud cyntaf roedd gennym ni fynydd i’w ddringo. ’Da ni’n bendant yn Ewrop, arian i’n cefnogi ni a chyfleusterau gwych yn Nantporth, a hei lwc y gwnawn ni’n dda.”
Ac roedd Cyfarwyddwr Pêl droed Y Seintiau Newydd, Craig Harrison, yn ddyn hapus iawn ac yn llawn canmoliaeth i’w dîm ar ddiwedd y gêm:
“Mae’r chwaraewyr wedi bod yn wych. Rhain yw’r chwaraewyr gorau imi weithio â nhw erioed ac fe allwn ni fynd ymlaen o nerth i nerth hefyd.”