Mason - Sgoriwr Caerdydd
Caerdydd 1–1 Leeds

Collodd Caerdydd gyfle i gyrraedd gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth gyda gêm gyfartal yn erbyn Leeds yn Stadiwm Dinas Caerdydd brynhawn Sadwrn.

Byddai buddugoliaeth wedi sicrhau fod yr Adar Gleision yn gorffen yn y chwech uchaf ac roedd pethau’n edrych yn addawol iawn ar yr egwyl diolch i gôl Joe Mason. Ond tarodd Luciano Becchio’n ôl i’r ymwelwyr yn yr ail hanner wrth i Leeds gipio pwynt.

Dim ond pedwar munud o’r hanner cyntaf oedd ar ôl pan sgoriodd Mason y gôl agoriadol. Daeth Peter Wittingham o hyd iddo gyda phas letraws gywir a chododd yntau’r bêl yn gelfydd dros Andy Lonergan yn y gôl i Leeds.

Bu bron i Kenny Miller ddyblu mantais y tîm cartref yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner ond gwnaeth Lonergan yn wych i arbed ei gynnig.

Gwnaeth gôl-geidwad Leeds yn dda iawn i atal Andrew Taylor hefyd hanner ffordd trwy’r ail hanner ac yn fuan iawn wedyn roedd yr ymwelwyr yn gyfartal.

73 munud oedd ar y cloc pan beniodd Becchio heibio David Marshall yn dilyn dyfalbarhad a chroesiad cywir yr eilydd, Paul Connolly.

Cafodd Caerdydd ambell i hanner cyfle wedi hynny ond daliodd Leeds eu gafael ar y pwynt.

Mae’r pwynt yn cadw Caerdydd yn y chweched safle a bydd yr Adar Gleision yn sâff o’u lle yn y gemau ail gyfle os na all Middlesbrough guro Southampton nos Sadwrn. Ond os gaiff y tîm o ogledd ddwyrain Lloegr dri phwynt yna bydd yn rhaid i Gaerdydd gipio pwynt yng Nghrystal Palace yr wythnos nesaf.