Mae’r gwaith o godi cylchoedd Olympaidd anferth, o flaen Neuadd y Ddinas Caerdydd wedi dechrau.

Bydd y cylchoedd Olympaidd yn cael eu codi ryw gan troedfedd o flaen y neuadd, ac yn cael eu goleuo â llifoleuadau gyda’r nos.

Mae’r cylchoedd du, glas, coch, melyn a gwyrdd 18 troedfedd o led. Maen nhw, a logo’r gemau Paralympaidd fydd yn ymddangos yn ddiweddarach, wedi costio £300,000.

Bydd Stadiwm y Mileniwm yn cynnal 11 gêm bêl-droed, gan gynnwys digwyddiadau cyntaf y Gemau Olympaidd ar ddydd Mercher, 25 Gorffennaf.

Bydd y cylchoedd yn sefyll o flaen Neuadd y Ddinas nes mis Awst. Yna bydd logo’r Gemau Paralympaidd yn cael ei godi yn eu lle.

Adran Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan sy’n talu am y gwaith, yn hytrach na Chyngor Caerdydd.