Criw Time Team
Mae archeolegwyr o raglen Time Team Channel 4 wedi bod yn cloddio am olion Rhufeinig yng Nghaerdydd.

Maen nhw wedi dod o hyd i gartrefi 3,000 o flynyddoedd oed a sawl crair hynafol ar safle hen bryngaer Rufeinig yng Nghaerau.

Bydd y rhaglen yn cael ei ddangos yn rhan o gyfres newydd o Time Team y flwyddyn nesaf.

Dywedodd y cyflwynydd Tony Robinson, eu bod nhw wedi treulio tri diwrnod “hynod o lwyddiannus” yn cloddio yno.

Ymysg y creiriau oedd pot o’r Oes Haearn oedd bron a bod yn gyflawn.

“Mae potiau sydd modd eu hail-adeiladu yn brin iawn, iawn,” meddai. “Bydd modd i ni ei roi at ei gilydd a gwneud llestr fyddai wedi ei greu â llaw.

“Death i’r amlwg bod pobol wedi bod yn byw ar y bryn yno am 1,500 o flynyddoedd, o ddiwedd yr Oes Efydd nes cyfnod y Rhufeiniaid.”