Jessie J Llun: BBC
Mae’r gantores Jessie J, sy’n un o feiriniaid cyfres y BBC The Voice ynghyd â’r canwr Tom Jones, wedi gwadu ei bod hi’n lesbiad sydd wedi celu ei rhywioldeb rhag colli ei ffans.

Mae’r gantores wedi gwadu’r awgrymiadau sy’n cael eu gwneud mewn llyfr gafodd ei gyhoeddi yn gynharach y mis hwn.

Dyw Jessie J heb gelu’r ffaith ei bod yn hoffi dynion a merched, ond mae’r bywgraffiad  yn honi ei bod yn hoyw.

Mae’r gantores wedi bod yn Trydar heddiw i wfftio’r honiadau. Dywedodd: “Mae’n rhyfedd faint o bobl rydw i wedi canlyn/cysgu efo nad ydw i erioed wedi cwrdd â nhw, yn ôl y tabloids.

“Ond, beth yw hyn? Rydw i’n lesbiad?! Ha! Diolch am ysgrifennu stori ddiflas arall sydd ddim yn wir.”