Rapsgaliwn a Mistar Urdd
Mae’r rapiwr euraidd, Rapsgaliwn, a’i gyfaill coch, gwyn a gwyrdd, Mistar Urdd, wedi ennill gwobr i S4C yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd heddiw.

Daeth y fideo o’r gân ‘Hei Mistar Urdd’, a lansiwyd adeg Eisteddfod yr Urdd yn 2011, i’r brig yng nghategori’r Ymgyrch Marchnata Gorau yn yr Ŵyl.

Cafodd y fideo ei chreu er mwyn hyrwyddo rhaglenni S4C o Eisteddfod yr Urdd Abertawe 2011, ac roedd yn brosiect ar y cyd rhwng adran farchnata S4C, y cwmni cynhyrchu Boomerang a mudiad yr Urdd.

Mae’r gân ei hun wedi bod yn anthem i blant ar draws Cymru ers iddi gael ei rhyddhau gyntaf yn 1976.

Cyfansoddwr y gân wreiddiol oedd Geraint Davies, cyn aelod o’r grŵp Hergest a cherddor gyda Mynediad am Ddim. Ond mae’r gân wedi cael ei diweddaru sawl tro ers hynny, gan gynnwys fersiwn gan y grŵp Cymraeg Cic yn ôl yn 2002.

‘Coron ar waith rhagorol’

Wrth ymateb i’r newyddion heddiw, dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, fod “derbyn y gydnabyddiaeth hon gan gynrychiolwyr y diwydiant yn yr holl wledydd Celtaidd yn goron ar waith rhagorol pawb oedd ynghlwm â chynhyrchu’r ymgyrch farchnata lwyddiannus.”

Mae’r Urdd hefyd wedi croesawu’r llwyddiant, a dywedodd Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Aled Sion, eu bod yn “ymfalchïo yn y cydweithio helaeth sy’n digwydd rhwng y sianel a’r mudiad.

“Roedd yr hysbyseb a’r gân a gynhyrchwyd llynedd gan ddefnyddio Rapsgaliwn a Mistar Urdd yn hynod boblogaidd ac wedi cyfrannu at lwyddiant Eisteddfod yr Urdd 2011.”

Mae’r tridiau o ŵyl flynyddol yn cael ei chynnal yn ninas Derry, Gogledd Iwerddon, eleni, ac mae’n para tan fory.

I gloi’r ŵyl bydd y brif wobr, sef Ysbryd yr Ŵyl, yn cael ei chyflwyno nos yfory. Llynedd, cyfres gyntaf Ras yn Erbyn Amser aeth â’r wobr honno. Roedd y gyfres yn dilyn y gyflwynwraig Lowri Morgan wrth iddi gymryd rhan mewn marathon yn yr Amazon.

Fideo ‘Hei Mistar Urdd’, sydd wedi denu dros 20,000 o ymweliadau ar YouTube: