Mae Sianel62, sef sianel deledu ar-lein Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, wedi lansio ymgyrch i ddarganfod ‘cân y flwyddyn’.
Lansiwyd Sianel 62 ar 19 Chwefror gyda’r bwriad o ddarlledu rhaglenni’n fyw ar nosweithiau Sul ac yna modd i wylio’r rhaglenni ‘ar alw’ ar ôl hynny.
Mae’r criw sydd tu ôl i’r sianel wedi llunio rhestr o ganeuon Cymraeg a ryddhawyd yn ystod y flwyddyn yn arwain at y lansiad – felly Mawrth 2011 i Fawrth 2012.
Bydd modd i unrhyw un bleidleisio am eu hoff gân o’r 25 sydd ar y rhestr, a bydd y rhai sy’n dod i’r brig yn cael eu datgelu mewn rhaglen arbennig fydd yn cael ei chyflwyno gan y cerddor a’r cyn-gyflwynydd Ywain Gwynedd.
Darllediad ffres
Mae Ywain Gwynedd, oedd yn aelod o’r grŵp Frizbee, wedi’i gyffroi gan y syniad ac yn edrych ymlaen at gyfrannu i’r sianel.
“Nes i dwîtio yn canmol Sianel 62 oes yn ôl gan nodi pa mor ffres oedd cael darllediadau diduedd Cymraeg, oedd yn poeni dim os oedd rhywun yn cael eu pechu gan y cynnwys,” meddai Ywain Gwynedd wrth Golwg360.
“Wedi hynny nes i ddechrau dilyn Hedd Gwynfor [ar Twitter], sy’n ymwneud â’r sianel a Chymdeithas yr Iaith.
“Dwi’n cofio o gwmpas adeg Cân i Gymru roedd o wedi sôn am droi’r fformat ar ei ben, trwy gael pobol i ddewis eu hoff gân oedd wedi’i ryddhau dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Roedd y syniad yma’n apelio i mi gan ei fod o’n rhoi sylw i’r cyfansoddwyr a bandiau sy’n weithgar ac yn gyfoes.”
Dangos potensial
Mae gan Ywain Gwynedd brofiad o weithio ym myd teledu, ond mae’n credu bod potensial enfawr i’r hyn mae Sianel62 yn ei wneud.
“Nes i gytuno i gymryd rhan yn y peth gan fy mod i’n cael bod yn rhan o rywbeth cyffrous yng Nghymru, sy’n ymwneud a cherddoriaeth, ac yn rhywbeth sydd ei angen i ychwanegu i’r cawl cerddoriaeth Gymraeg!
“Dwi wedi gweithio ym myd teledu Cymru o’r blaen ond wedi gorfod gadael oherwydd rhwystrau sy’n cael eu rhoi o flaen y cwmnïau annibynnol, a hynny heb angen yn fy marn i.
“Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhoi darllediad cryf o ‘deledu’ i ni bob nos Sul ers cwpl o fisoedd bellach a does dim ffiniau i’r hyn sy’n bosib wrth edrych ymlaen at y dyfodol.
“Maen nhw hefyd wedi dallt fod y gerddoriaeth yn rhan bwysig o ddiwylliant pobol ifanc Cymru, a gyda diflaniad rhaglenni miwsig cyfoes Cymraeg oddi ar S4C dyma gyfle i lenwi’r gwacter.”