Mae gwasanaeth hedfan newydd o Gaerdydd i Barcelona wedi cael “dechrau da” medd Maes Awyr Caerdydd.

Ddydd Sadwrn diwethaf dechreuodd gwasanaeth newydd cwmni Vueling, o Gaerdydd i faes awyr Barcelona-El Prat, ac mae Maes Awyr Caerdydd wedi cadarnhau bod “dros gant o bobl” ar fwrdd yr awyren gyntaf.

Dyma wasanaeth cyntaf Vueling rhwng gwledydd Prydain a’u pencadlys yng Nghatalonia, ac mae teithiau deirgwaith yr wythnos o Gaerdydd i Barcelona, a dwy daith ychwanegol y penwythnos hwn i ateb y galw ychwanegol dros benwythnos y Pasg.

Ym mis Mehefin bydd Vueling yn dechrau hedfan o Gaerdydd i Alicante a Palma de Mallorca.

“Ry’n ni wedi derbyn croeso cynnes yng Nghymru a ry’n ni’n gobeithio edrych am gyfleon eraill i hedfan o Gaerdydd yn y dyfodol,” meddai pennaeth Vueling, Alex Cruz.

Dywedodd Catrin Elis o Faes Awyr Caerdydd nad ydyn nhw’n disgwyl llawer o drafferthion y penwythnos hwn. Mae cwmnïau hedfan wedi bod yn rhybuddio bydd oedi mewn meysydd awyr dros y Pasg o ganlyniad i doriadau staff yr Asiantaeth Ffiniau.

Mae Maes Awyr Caerdydd wedi bod dan y lach yn ddiweddar, gyda Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn dweud na fyddai am i bobl gyrraedd Cymru trwy’r maes awyr gan fod y lle’n rhoi argraff anffafriol o’r wlad.

Beirniadwyd ei sylw gan arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, a galwodd mudiad Fly Cardiff ar y Prif Weinidog i ymddiswyddo.