Y gyflwynwraig deledu Alex Jones
Bydd y gyflwynwraig Alex Jones a’r actor Hollywood, Michael Sheen, yn cael eu hanrhydeddu gan Brifysgol Aberystwyth ym mis Gorffennaf eleni.

Bydd y ddau yn cael eu hanrhydeddu â Chymrodoriaeth yn ystod seremoniau graddio Prifysgol Aberystwyth yn yr haf.

Yn ôl y Brifysgol, mae’r anrhydedd yn cael ei roi i “unigolion uchel eu parch, a chanddynt gysylltiad agos â Phrifysgol Aberystwyth, neu sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i fywyd proffesiynol neu gyhoeddus yng Nghymru.”

Mae chwech arall hefyd yn mynd i fod yn cael eu hanrhydeddu gan y Brifysgol yn ystod seremoniau’r haf am eu cyfraniad mewn gwahanol feysydd.

Yn eu plith mae’r Cyn-Archdderwydd, y Parchedig John Gwilym Jones sy’n  cael ei anrhydeddu am ei gyfraniad i Lenyddiaeth.

Bydd Yr Athro Michael Clarke yn cael ei anrhydeddu am ei gyfraniad helaeth i astudiaethau gwleidyddiaeth ac amddiffyn, tra bydd Syr David Lloyd Jones yn cael ei gydnabod am ddyfod yn un o Farnwyr Gweinyddol Cymru ac yn gyn-aelod o’r Uchel Lys.

Bydd colofnydd y Times, Catlin Moran, yn derbyn cymrodoriaeth am ei chyfraniad at newyddiaduraeth. Cafodd cryn glod y llynedd ar ôl ysgrifennu darn teithiol am anturiaethau gwyliau ei phlentyndod yn nhref glan-mor y Brifysgol, o’r enw ‘Why I love Aberystwyth’.

Y ddau arall fydd yn cael eu hanrhydeddu fydd yr animeiddiwr a’r cynhyrchydd ffilmiau a’r cyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, Dr Jan Jaroslav Pinkava, a Rheolwr Gyfarwyddwr Waitrose, Mark Price.