Mae’r rheoleiddiwr darlledu OFCOM wedi rhoi tair trwydded i orsafoedd radio cymunedol newydd yng Ngogledd Cymru heddiw.
Mae Glan Clwyd AM, Môn FM, a Harlech FM wedi sicrhau trwyddedau cymunedol i ddarlledu gan y rheoleiddiwr darlledu OFCOM
Dywedodd OFCOM heddiw eu bod wedi gwobrwyo’r trwyddedau ar y sail y byddai’r gorsafoedd yn “cyflwyno manteision cymdeithasol penodol.”
Mae’r tair drwydded newydd ymhlith 11 a ddyfarnwyd i orsafoedd radio ar draws Prydain heddiw, gyda’r gweddill i fynd i orsafoedd newydd yn ne-orllewin Lloegr.
Aeth y cais ar gyfer trwydded cymunedol Môn FM i mewn ym mis Gorffennaf y llynedd, gyda’r bwriad o greu “gwasanaeth arbennig i bobol ar draws Ynys Môn,” yn ôl y rhai tu ôl i’r prosiect.
Bwriad Glan Clwyd AM, sydd yn cael ei darlledu o Fodelwyddan, Sir Ddinbych, yw darlledu “i’r rhai 45 oed a throsodd ym Modelwyddan a’r ardaloedd cyfagos.”
Bydd Harlech FM, fydd yn cael ei darlledu o Goleg Harlech yng Ngwynedd, yn “gwasanaethau’r gymuned ddwyieithog o fewn ac o gwmpas Harlech.”
‘Cyfle gwych i Fôn’
Wrth ymateb i’r newyddion heddiw, dywedodd y grŵp o wirfoddolwyr tu ôl i orsaf radio Môn eu bod “wrth eu bodd” bod blwyddyn brysur o lunio’r drwydded wedi talu ffordd.
Dywedodd Gerallt Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn, sy’n cefnogi’r prosiect, ei fod yn “falch i allu cefnogi menter mor haeddiannol.
“Bydd Radio Cymunedol yn adeiladu pontydd cryf gyda’n cymunedau ac yn sicrhau fod pawb yn cael cyfle i glywed beth sy’n digwydd gyda phrosiectau yn eu cymunedau,” meddai.
Fe fydd gan Môn FM y drwydded gymunedol am gyfnod o bum mlynedd o heddiw ymlaen, ac mae ganddyn nhw gynlluniau i ddarlledu cynnwys byw yn ystod y dydd, gyda chymysgedd o ail-ddarllediadau a rhaglenni wedi eu recordio rhwng 11.30pm a 5.30pm. Bydd y cynnwys hwn yn amrywio rhwng Cymraeg a Saesneg.
Yn ôl Simon Davenport, Rheolwr Gorsaf Môn FM, fod y newyddion yn “gyfle gwych i Ynys Môn gael llais, ac hefyd yn gyfle i bobol gael sgwrs agored ac onest am y pethau sydd o bwys gwirioneddol iddyn nhw.”
Mae’r gwasanaeth yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr, gyda chefnogaeth Menter Môn – ac maen nhw’n chwilio am bobol i gyfrannu tuag at y gwaith o hyd, o gyflwynwyr i gydlynwyr y gwasanaeth.