Y Gweinidog Busnes Edwina Hart
Mae cronfa beilot ar gyfer hyrwyddo cyfryngau digidol yng Nghymru am gael ei hehangu a’i hymestyn.

Yn dilyn poblogrwyd y Gronfa Ddatblygu Digidol, cyhoeddodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart y bydd y Gronfa’n parhau am flwyddyn arall ac y caiff £1.5 miliwn yn ychwanegol ei neilltuo iddi, gan ddod â’r cyfanswm ynddi i £2 miliwn.

Meddai Mrs Hart: “Mae’r Gronfa’n cefnogi cwmnïau o bob cwr o Gymru i ddatblygu nifer o brosiectau diddorol, blaengar a masnachol sydd â’r potensial i helpu i gynnal twf sector y diwydiannau creadigol.

“”Cafodd y prosiect ei lansio fel peilot i ddechrau, ac mae’n dda gen i allu cyhoeddi nawr ein bod am ei hymestyn am flwyddyn arall a neilltuo rhagor o arian iddi. Mae’r diddordeb ymhlith busnesau Cymru’n frwd gyda thros gant wedi mynegi diddordeb hyd yma.”

Mae’r gronfa’n rhoi cyllid sbarduno nad oes angen ei dalu yn ôl i ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau creadigol newydd y gellir eu gweithio mewn nifer o gyfryngau digidol ac mewn marchnadoedd rhyngwladol.