'Nid beirniadaeth ar Gymdeithas yr Iaith'
Mae Golwg360 yn deall bod mudiad newydd yn y broses o gael ei sefydlu i hyrwyddo’r Gymraeg.
Fe fydd yn cael ei lansio o fewn tri neu bedwar mis ac mae’r trefnwyr yn addo y bydd presenoldeb cry’ ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Mae Golwg360 wedi siarad gyda rhai o’r bobol y tu cefn i’r mudiad ond mae’r rhan fwya’ eisiau aros yn ddienw ar hyn o bryd a thydyn nhw ddim eisiau rhoi manylion.
Er hynny, mae’n glir fod mwy nag un grŵp wedi bod yn cyfarfod ac yn cyfarfod yn gyson ac maen nhw’n ystyried o leia’ dri maes – polisi, lobïo a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg.
Mae galwadau wedi bod ers tro am greu corff lobïo newydd dros y Gymraeg, gyda llawer yn galw ar Gymdeithas yr Iaith i newid tactegau.
‘Bwlch mawr’
Ond fe bwysleisiodd un o gefnogwyr y mudiad newydd nad oedd ei sefydlu’n feirniadaeth ar Gymdeithas yr Iaith.
“Mae angen grŵp penodol i wneud y gwaith ymgyrchu yn y ffordd maen nhw’n ei wneud. Ond mae angen grŵp sy’n pwyso a lobïo hefyd,” meddai’r darlithydd a’r cynhyrchydd theatr a theledu, Euros Lewis o Gribyn.
“Mae bwlch mawr i gael i’w lenwi i grŵp arall sy’n herio mewn materion mwy cyfansoddiadol.”
Un o’r amcanion, meddai, oedd sicrhau bod dwyieithrwydd yn digwydd o ddifri.