Mae pryder heddiw y gallai’r panig diweddar dros gyflenwadau tanwydd gael effaith ar nifer y rheini fydd yn teithio i Gymru dros y Pasg eleni.

Ofn penaethiaid twristiaeth yw y bydd modurwyr yn meddwl dwywaith cyn teithio o fewn y Deyrnas Unedig yn sgil y bygythiad streic tanwydd a’r prisiau uchel.

Mae Prif Weithredwr Twristiaeth Canolbarth Cymru, Val Hawkins, yn dweud fod effaith y streiciau, ac ymateb Llywodraeth San Steffan, wedi bod yn ergyd arall i’r diwydiant yng Nghymru dros y Pasg.

“Dyw’r argyfwng tanwydd, a’r sylwadau o du’r Llywodraeth, ddim wedi gwneud dim lles i’r diwydiant,” meddai wrth Golwg 360.

“Mae’r diwydiant mor ddibynnol ar ffactorau anwadal fel y tywydd ta beth, dyw cyhoeddiadau fel hyn ddim yn helpu.”

Dim awydd

Mae cymdeithas foduro’r AA wedi rhybuddio y bydd cysgod y streic posib gan yrwyr tanceri tanwydd yn siŵr o gael effaith ar awydd pobol i deithio yn ystod y gwyliau Pasg eleni.

Cyn y streiciau roedd disgwyl i 93% o bobol ar draws Prydain aros ym Mhrydain ar gyfer eu gwyliau Pasg eleni.

Roedd dros hanner y rheini, 54%, yn dweud eu bod nhw’n bwriadu gyrru i rywle o fewn y Deyrnas Unedig yn ystod y gwyliau.

Ond mae Keith Miller o’r AA yn dweud fod y pryder ynglŷn â thanwydd yn debygol o olygu na fydd cymaint yn mentro.

“Bydd rhai pobol yn parhau’n bryderus ynglŷn â chyflenwadau tanwydd,” meddai.

Yn ôl yr AA, mae disgwyl i’r Pasg eleni fod yn llawer llai prysur na’r llynedd.

Ond mae Twristiaeth Canolbarth Cymru yn annog pobol sydd eisiau mynd ar wyliau dros y Pasg i gadw llygad allan am y deliau munud ola’ sydd bellach ar gael.

“Mae pobol wedi bod yn ei gadael hi mor hwyr cyn bwcio, mae digonedd o ddewis allan yno nawr,” meddai Val Hawkins, “dyw hi ddim yn rhy hwyr.”