Gavin Henson
Mae Gleision Caerdydd wedi terfynu cytundeb Gavin Henson.
Dywedodd y clwb eu bod nhw wedi terfynu ei gytundeb yn dilyn cyfarfod â’r tîm rheoli bore ddydd Llun.
“Mae rheolwyr Gleision Caerdydd wedi trafod y mater yn drylwyr ond rydyn ni wedi penderfynu gweithredu’n gyflym yn dilyn y digwyddiad bore dydd Sadwrn,” meddai Richard Holland, Prif Weithredwr y Gleision.
“Mae Gavin wedi cyfaddef ei hun bod ei ymddygiad yn hollol annerbyniol. Mae terfynu ei gytundeb yn anfon neges glir nad yw ymddygiad fel hyn yn cael ei oddef gan y Gleision.
“Mae gennym ni ddyletswydd i’n cefnogwyr a’n buddsoddwyr i amddiffyn enw da Gleision Caerdydd.
“Mae Gavin Henson yn amlwg yn chwaraewr rygbi talentog ac mae’n anffodus fod ei yrfa â’r Gleision wedi gorffen fel hyn.
“Serch hynny hoffwn ni ddiolch iddo am ei wasanaeth a dymuno pob lwc iddo yn y dyfodol.”