Mae dyn 58 oed o’r Bermo wedi cael ei gyhuddo gan yr heddlu o wneud ystum hiliol yn ystod gêm bêl-droed heddiw.

Cafodd Phillip Gannon, o Heol Meirion, Bermo, ei arestio yn dilyn gêm pedwaredd rownd Cwpan yr FA, rhwng Lerpwl a Manchester United yn Anfield, ar 28 Ionawr eleni.

Mae’r heddlu wedi ei gyhuddo o drosedd dan y ddeddf trefn gyhoeddus am wneud ystum hiliol yn ystod y gêm, meddai heddlu Galnnau Mersi.

Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth am y tro, ac fe fydd yn ymddangos o flaen Canolfan Gyfiawnder Cymunedol Lerpwl am 9.45am ar 20 Ebrill.

Cafodd Phillp Gannon ei arestio ar ôl iddo gael ei ddal gan gamerâu teledu yn gwneud yr ystum hiliol.

Cafodd y delweddau hynny eu rhannu’n eang ar y we yn dilyn y gêm, gan arwain at nifer o aelodau’r cyhoedd yn cysylltu â’r heddlu i gwyno am yr ymddygiad.

Y gêm ar 28 Ionawr oedd y cyntaf rhwng y ddau dîm ers i streiciwr Lerpwl, Luis Suarez, gael ei atal rhag chwarae am wyth gêm wedi i’r FA ei gael yn euog o gam-drin amddiffynnwr a chapten Manchester United, Patrice Evra, yn hiliol.

Cyn y gêm, buddugoliaeth 2-1 i Lerpwl, roedd cyhoeddwr y stadiwm wedi rhybuddio cefnogwyr na fyddai ymddygiad hiliol na homoffobig yn cael ei oddef.