Bydd tîm rygbi proffesiynol newydd ar gyfer y Cymoedd a’r gogledd yn cael ei sefydlu y flwyddyn nesaf, os bydd cynlluniau newydd yn cael eu gwireddu.

Yn ôl y grŵp ymgyrchu Rygbi’r Cymoedd mae angen tîm proffesiynol ar y Cymoedd gan nad yw’r rhanbarthau rygbi a sefydlwyd yn 2003 wedi dal y dychymyg y tu allan i arfordir y de.

“Mae’r rhanbarthau rygbi’n teimlo’n ffug a dyw pobl y Cymoedd ddim yn gallu uniaethu gyda nhw,” meddai Owen Smith wrth Golwg360.

Mae Aelod Seneddol Pontypridd yn aelod blaenllaw o’r grŵp sydd wedi sefydlu Rygbi’r Cymoedd, sydd â’r arwyddair Cymraeg Cadernid mewn Cymuned.

Yn ôl amcangyfrif gan gwmni ymchwil Arad gall tîm rygbi proffesiynol gyfrannu dros £10miliwn  i economi’r cymoedd, yn seiliedig ar dorfeydd cartref o 6,000 ar gyfartaledd.

Mae Rygbi’r Cymoedd yn gobeithio gwerthu 10,000 o gyfranddaliadau gwerth £100 er mwyn codi miliwn o bunnoedd. Bydd gweddill yr arian i gynnal y tîm yn cael ei godi trwy nawdd gan fusnesau ac Undeb Rygbi Cymru.

Chwarae ym Mae Colwyn

Bwriad Rygbi’r Cymoedd yw rhoi tîm yng nghynghrair y RaboDirect yn nhymor 2013/14, gan gystadlu hefyd yng nghwpan Amlin yn Ewrop am y tair blynedd cyntaf, cyn cystadlu gyda’r rhanbarthau eraill am le yng nghwpan Heineken wedyn.

Mae’r tîm yn bwriadu cynrychioli gogledd Cymru trwy sicrhau bod 20% o’r chwaraewyr yn dod o’r gogledd, a thrwy gynnal dwy gêm ‘gartref’ ar Barc Eirias ym Mae Colwyn.

Os bydd y tîm yn cael ei sefydlu bydd gemau hefyd yn cael eu chwarae yng Nghaerffili, Penybont a Glyn Ebwy, ond cartref sefydlog y tîm fydd Heol Sardis ym Mhontypridd ble mae bwriad gan Rygbi’r Cymoedd i ddatblygu stadiwm newydd maes o law.

Dywed Rygbi’r Cymoedd y bydd Undeb Rygbi Cymru yn elwa o adfywio’r gêm yn y cymoedd, ac y bydd y rhanbarthau eraill yng Nghymru yn cael budd o gael gêm dderbi ychwanegol, ynghyd â’r posibilrwydd o brynu chwaraewyr a fydd yn cael eu datblygu yn academi’r Cymoedd.