Ffliw adar
Bydd y Gemau Olympaidd yn Llundain yn yr haf yn cynyddu’r perygl, sydd eisoes yn “uchel iawn”, o bandemig ffliw yn y Deyrnas Unedig.
Yn ôl arolwg gan gwmni Maplecroft o Gaerfaddon, mae Prydain yn ail yn unig i Singapore o ran y perygl y gallai pandemig ffliw ledu drwy’r wlad.
Mae dinasoedd poblog, poblogaeth symudol iawn, a nifer y teithwyr o dramor yn golygu y gallai pandemig ledu’n gyflym iawn drwy’r Deyrnas Unedig, medden nhw.
Bydd 5.3 miliwn o dwristiaid ychwanegol yn teithio i Brydain yn ystod y gemau ym mis Gorffennaf ac Awst, a nifer fawr o wledydd lle y mae pandemig yn debygol o ymddangos.
Singapore oedd y wlad fwyaf tebygol i weld pandemig ffliw yn lledu, ac wedyn y Deyrnas Unedig, De Korea, yr Iseldiroedd, a’r Almaen.
Roedd y pandemig ffliw yn debygol o ddechrau yn Cambodia, Bangladesh, China neu Fietnam, meddai’r adroddiad.
Mae clefydau pandemig y gorffennol wedi cael effaith trychinebus yn fyd-eang. Yn 1918 cafodd 40 miliwn o bobol eu lladd gan y Ffliw Sbaenaidd.
Lladdwyd 457 o bobol ym Mhrydain gan y ffliw moch y 2009-10. Mae arbenigwyr yn credu y gallai clefydau pandemig mwy difrifol ddigwydd yn y dyfodol.