Gavin Henson
Bydd Gavin Henson yn cael gwybod yn hwyrach ymlaen heddiw a oes ganddo ddyfodol â Chlwb Rygbi Gleision Caerdydd.

Bu’n rhaid i’r chwaraewr amryddawn 30 oed ymddiheuro ddoe am yfed ac “ymddwyn mewn modd amhriodol” ar awyren o Glasgow i Gaerdydd bore ddydd Sadwrn.

Datgelodd Henson, sydd wedi ennill 34 cap dros Gymru, ei fod wedi mynd allan i yfed ar ôl cael dod i’r cae fel eilydd wrth i’w dîm golli 31-3 yn erbyn Glasgow ddydd Gwener.

Parhaodd i yfed y bore wedyn. Cafodd ei atal o’r clwb dros dro ar ôl y digwyddiad, ac mae cwmni hedfan Flybe hefyd yn cynnal ymchwiliad.

Fe fydd tîm rheoli’r Gleision yn cwrdd heddiw er mwyn trafod ei ffawd. Mae ei gytundeb â’r clwb yn dod i ben ar ddiwedd y tymor.

“Hoffwn i ymddiheuro yn gyhoeddus am yfed ar yr awyren,” meddai Gavin Henson.

“Rydw i’n cyfaddef fy mod i wedi bod mas yn yfed yn Glasgow ar nos Wener yn dilyn y gêm yn erbyn Glasgow Warriors.

“Roeddwn i wedi parhau i yfed ar yr awyren, a oedd yn beth twp i’w wneud, ac mae gen i gywilydd am hynny.

“Rydw i’n gallu gweld bod yfed ac ymddwyn mewn modd amhriodol ar awyren am 7am wedi tramgwyddo aelodau o’r cyhoedd, staff Flybe Airline a theithwyr.

“Rydw i’n gwybod fy mod i wedi gadael aelodau’r tîm, yr hyfforddwyr, y rheolwyr, y buddsoddwyr a fy nheulu i lawr.

“Does dim esgus am yfed ar yr awyren ac rydw i’n gwybod y bydd rhaid i mi gymryd cyfrifoldeb am hynny.

“Mae angen i fi ddysgu fy ngwers a sicrhau nad yw’n digwydd eto.

“Rydw i’n barod i gydweithio 100% â Gleision Caerdydd ac eisiau gwneud popeth o fewn fy ngallu i wneud yn iawn am hynny a galluogi’r Gleision i ganolbwyntio ar gêm fwyaf y tymor y penwythnos nesaf.

“Rydw i’n gobeithio y bydd Gleision Caerdydd yn derbyn fy ymddiheuriad.”

Dyma’r tro trwstan diweddaraf yng ngyrfa ddadleuol y chwaraewr.

Enillodd ei gap cyntaf yn 19 oed, yn 2001, cyn dod i sylw’r cyhoedd â’i gic dros y pyst a enillodd gêm gyntaf Camp Lawn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2005.

Ond roedd cymysgedd o anafiadau a’i benderfyniad i droi cefn ar y gêm rhwng mis Mawrth 2009 a mis Hydref 2010 yn golygu na gyrhaeddodd ei botensial.

Yn y cyfamser ymddangosodd ar sawl rhaglen teledu, gan gynnwys Strictly Come Dancing, 71 Degrees North, a The Bachelor.

Chwaraeodd am gyfnod byr â chlwb Toulon yn Ffrainc cyn iddo gael ei atal dros dro am ffrae â dau o’i gyd-chwaraewyr mewn clwb nos. Ni chafodd ei gytundeb ei ymestyn ar ddiwedd y tymor.