Giorgio Chinaglia
Mae Giorgio Chinaglia, un o gyn-chwaraewyr yr Eidal a gafodd ei fagu yng Nghymru, wedi marw yn 65 oed, cyhoeddwyd neithiwr.

Daethpwyd o hyd i’w gorff yn ei gartref yn Florida gan ei fab mabwysiedig am 9am bore ddoe (2pm amser Cymru).

Cafodd ei eni yn Carrara, yr Eidal, ar 24 Ionawr, 1947, ond fe’i magwyd yng Nghaerdydd ac fe ddechreuodd ei yrfa broffesiynol ag Abertawe.

Dioddefodd o gymhlethdodau ar ôl derbyn triniaeth am broblem â’i galon fis diwethaf.

Cynrychiolodd Chinaglia yr Eidal yng Nghwpan y Byd 1974. Mae’n gadael gwraig, Angela, a phump o blant, tri ohonyn nhw o’i briodas gyntaf.

Dywedodd Charlie Stillitano, oedd yn cydweithio â Giorgio Chinaglia ar orsaf radio Sirius XM, ei fod wedi clywed am farwolaeth y cyn-chwaraewr pêl-droed gan ei fab.

“Roedd yn byw ag Anthony, ac wedi cael trawiad ar y galon tua naw diwrnod yn ôl,” meddai. “Fe aeth am lawdriniaeth ac roedd yn gwneud yn dda iawn ac roedden nhw’n meddwl y byddai’n goroesi.

“Roedden nhw’n gobeithio clirio prif wythïen arall fis nesaf ond erbyn i’w fab ddod o hyd iddo roedd eisoes wedi marw.”

Dechreuodd Giorgio Chinaglia ei yrfa broffesiynol ag Abertawe, cyn dychwelyd i’r Eidal yn 1966, a chwarae i Lazio yn 1969.

Enillodd y Scudetto â’r clwb yn 1974 cyn symud i dîm Cosmos yn Efrog Newydd yn 1976.

Roedd yn rhan o dîm yng nghlwb Cosmos oedd yn cynnwys rhai o gewri’r gêm, fel Pele a Franz Beckenbauer.

“Fe fues i’n cael cinio â Pele yn ddiweddar,” meddai Charlie Stillitano. “Roedd o bob tro yn dweud wrth Chinaglia, ‘Giorgio, rydw i’n clywed dy fod ti wedi chwarae â Pele’, ac fe fyddai Giorgio yn ymateb, ‘Na, na, roedd Pele yn chwarae â fi’.”