Tottenham 3-1 Abertawe
Sgoriodd Emmanuel Adebayor ddwywaith i Tottenham yn yr ugain munud olaf wrth i Abertawe golli yn White Hart Lane brynhawn Sul.
Unionodd Gylfi Sigurdsson i’r Elyrch toc cyn yr awr wedi i Rafael van der Vaart roi’r tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf, ond bu rhaid i’r tîm o Gymru ddychwelyd yn waglaw wedi goliau hwyr Adebayor.
Camgymeriad amddiffynnol prin gan Ashley Williams a gyflwynodd y gôl gyntaf i van der Vaart wedi 19 munud. Methodd Williams a chlirio croesiad ei gydwladwr, Gareth Bale, ym mhellach na van der Vaart ar ochr y cwrt cosbi. Roedd gan y chwaraewr o’r Iseldiroedd ddigon i’w wneud o hyd ond ergydiodd i’r gornel uchaf ar y cynnig cyntaf i guro’i gydwladwr yntau, Michel Vorm.
Dechreuodd Abertawe’r ail hanner yn well a bu bron i Sigurdsson unioni bum munud yn unig wedi’r egwyl gydag ergyd wych o 30 llath ond llwyddodd Brad Fridel i wneud arbediad llawn cystal.
Cafodd Sigurdsson well lwc wedi 59 munud pan lwyddodd i guro Fridel gyda hanner foli o 20 llath wedi i Wayne Routledge reoli’r bêl i’w lwybr.
Cyfartal gyda hanner awr ar ôl felly ond yn ôl y daeth y tîm cartref yn yr 20 muud olaf. Cafodd Adebayor ormod o le yn y cwrt chwech i benio cic gornel van der Vaart heibio Vorm wedi 73 munud.
A sicrhaodd y blaenwr y fuddugoliaeth i’r tîm o Lundain bum munud o’r diwedd gyda pheniad arall yn y cwrt cosbi. Yr eilydd, Aaron Lennon oedd yn gyfrifol am y croesiad o’r dde y tro hwn a doedd gan Vorm ddim gobaith unwaith eto.
Mae’r canlyniad yn golygu fod Abertawe yn aros yn yr hanner gwaelod ar ôl disgyn i’r unfed safle ar ddeg o ganlyniad i fuddugoliaeth Fulham ddydd Sadwrn.