Gavin Henson
Mae Gavin Henson wedi ymddiheuro am ei ymddygiad ar ôl cael ei atal gan ei glwb dros dro.
Cafodd Gavin Henson, 30, a ymunodd â Gleision Caerdydd ym mis Hydref y llynedd, ei wahardd ar ôl digwyddiad ar ehediad o Glasgow i Gaerdydd nos Wener.
Fe fydd tîm rheoli Gleision Caerdydd yn cwrdd yfory er mwyn trafod y mater.
“Hoffwn i ymddiheuro yn gyhoeddus am yfed ar yr awyren,” meddai Gavin Henson.
“Rydw i’n cyfaddef fy mod i wedi bod mas yn yfed yn Glasgow ar nos Wener yn dilyn y gêm yn erbyn Glasgow Warriors.
“Roeddwn i wedi parhau i yfed ar yr awyren, a oedd yn beth twp i’w wneud, ac mae gen i gywilydd am hynny.
“Rydw i’n gallu gweld bod yfed ac ymddwyn mewn modd amhriodol ar awyren am 7am wedi tramgwyddo aelodau o’r cyhoedd, staff Flybe Airline a theithwyr.
“Rydw i’n gwybod fy mod i wedi gadael aelodau’r tîm, yr hyfforddwyr, y rheolwyr, y buddsoddwyr a fy nheulu i lawr.
“Does dim esgus am yfed ar yr awyren ac rydw i’n gwybod y bydd rhaid i mi gymryd cyfrifoldeb am hynny.
“Mae angen i fi ddysgu fy ngwers a sicrhau nad yw’n digwydd eto.
“Rydw i’n barod i gydweithio 100% â Gleision Caerdydd ac eisiau gwneud popeth o fewn fy ngallu i wneud yn iawn am hynny a galluogi’r Gleision i ganolbwyntio ar gêm fwyaf y tymor y penwythnos nesaf.
“Rydw i’n gobeithio y bydd Gleision Caerdydd yn derbyn fy ymddiheuriad.”