Trigolion Cymru yw’r lleiaf tebygol o adael y wlad ar wyliau yn ystod y Gemau Olympaidd yr haf yma, yn ôl arolwg newydd.

Yn ôl canlyniadau’r pôl piniwn gan gwmni Travelex, mae tua thraean pobol Prydain wedi trefnu gwyliau dramor adeg y Gemau.

Roedd tri chwarter o’r rheini yn dweud bod y Gemau Olympaidd wedi effeithio ar y dyddiad yr oedden nhw wedi penderfynu gadael.

Roedd hynny’n golygu bod tua 10 miliwn o Brydeinwyr wedi penderfynu gadael y wlad er mwyn osgoi’r Gemau Olympaidd, meddai Travelex.

Dywed y rhan fwyaf eu bod nhw eisiau osgoi’r torfeydd neu’r ymdriniaeth ddiddiwedd ar y teledu.

Roedd 14% o’r rheini a holwyd yn dweud y bydden nhw wedi cymryd gwyliau ym Mhrydain os nad oedd y Gemau Olympaidd yn cael eu cynnal yn Llundain.

Serch hynny roedd llai o awydd gadael y wlad ymysg pobol Cymru a Gogledd Iwerddon na rhannau eraill o’r wlad.

Fel y disgwyl, pobol Llundain, Weymouth a Windsor oedd fwyaf tebygol o ddweud eu bod nhw am ffoi.

Roedd dau draean o’r rheini oedd wedi penderfynu gadael yn mynd i’r cyfandir, a Sbaen oedd y dewis mwyaf poblogaidd o’r cyfan.

“Mae nifer o’n cwsmeriaid ni eisiau dianc o’r cwbl tra bod y Gemau Olympaidd ymlaen,” meddai’r asiant teithio Bridget Keevil o Travel Stop.

Holwyd 3,000 o bobol o bob cwr o’r Deyrnas Unedig ddechrau mis Mawrth.