Gavin Henson
Mae cwmni hedfan yn ymchwilio i ddigwyddiad ar un o’i awyrennau a arweiniodd at wahardd Gavin Henson o Glwb Rygbi’r Gleision dros dro.

Cafodd Gavin Henson, 30, a ymunodd â’r clwb ym mis Hydref y llynedd, ei wahardd ar ôl digwyddiad ar ehediad o Glasgow i Gaerdydd nos Wener.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gleision ei fod wedi ei wahardd “yn syth” yn dilyn y digwyddiad a ddaeth ar ôl eu gêm yn erbyn clwb Glasgow Warriors.

“Fe fydd tîm rheoli Gleision Caerdydd yn cyfarfod peth cyntaf ddydd Llun er mwyn trafod y mater ymhellach,” meddai’r llefarydd.

Yn ddiweddarach cyhoeddodd y cwmni hedfan Flybe eu bod nhw’n cynnal eu hymchwiliad eu hunain i ehediad BE3431 o Glasgow i Gaerdydd.

“Gall Flybe gadarnhau ein bod ni’n casglu gwybodaeth gan ei staff ein hunain yn y ddau faes awyr ac ni fydd sylw pellach ar hyn o bryd,” meddai llefarydd.

Roedd Gavin Henson yn eilydd ar yr asgell wrth i’r clwb golli 31-3 yn erbyn Glasgow.

Arwyddodd â Gleision Caerdydd ym mis Hydref ar gytundeb wyth mis. Treuliodd gyfnodau byr â Saracens a Toulon yn dilyn ei ymadawiad o’r Gweilch.

Wrth arwyddo dywedodd y byddai yn “gwneud popeth o fewn fy ngallu i’w cadw nhw’n hapus a mwynhau fy rygbi”.