Capten Cymru, Sam Warburton
Mae’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol wedi diddymu Camp Lawn Cymru ar ôl apêl lwyddiannus gan Undeb Rygbi Lloegr.
Roedd Undeb Rygbi Lloegr wedi apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â gwobrwyo cais David Strettle yn eu gêm yn erbyn Cymru yn Twickenham ar 25 Chwefror eleni.
Penderfynodd y dyfarnwr fideo ar y diwrnod, Iain Ramage, nad oedd David Strettle wedi tirio’r bêl yn eiliadau olaf y gêm.
Ond wedi adolygu’r dystiolaeth penderfynodd panel apêl y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol fel arall.
Mae’r cais yn golygu fod Lloegr wedi sicrhau gêm gyfartal 19-19 yn erbyn Cymru, ac na enillodd y crysau cochion Gamp Lawn, na chwaith y Goron Driphlyg.
Maen nhw’n cadw’r bencampwriaeth ar wahaniaeth pwyntiau.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru eu bod nhw’n anhapus â’r penderfyniad ond nad oedd rheolau’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yn caniatáu apelio yn erbyn dyfarniad apêl arall.
Lloegr ‘yn haeddu gêm gyfartal’
Roedd panel y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yn cynnwys cyn-chwaraewyr a hyfforddwyr, gan gynnwys Martin Johnson, Austin Healey, a Brian Moore.
Yn eu datganiad dywedodd y panel y byddai Toby Flood “yn debygol iawn” o fod wedi cicio’r trosiad yn dilyn cais Strettle, ac felly mai’r unig ddewis oedd ganddyn nhw oedd unioni’r sgôr.
“Roedd Lloegr yn haeddu gêm gyfartal, os nad buddugoliaeth, ac roedd hynny wedi dylanwadau ar y penderfyniad,” meddai Austin Healey.
Doedd dim ymateb swyddogol gan chwaraewyr Cymru ond trydarodd Mike Phillips ei anfodlonrwydd yn ddiweddarach.