Mae Gavin Henson wedi cael ei wahardd gan ei glwb, y Gleision, yn dilyn digwyddiad ar awyren.
Ymunodd Henson â’r Gleision ym mis Hydref y llynedd. Cafodd ei wahardd yn dilyn digwyddiad ar awyren oedd yn hedfan yn ôl i Gaerdydd o Glasgow neithiwr.
Meddai llefarydd ar ran y Gleision, “Gall y Gleision gadarnhau fod Gavin Henson wedi ei wahardd yn syth ar ôl y digwyddiad ar y daith adref o’r Alban yn dilyn eu gêm yn erbyn y Glasgow Warriors neithiwr.
“Bydd tîm rheoli’r Gleision yn cyfarfod ben bore Llun i drafod y mater ymhellach.”
Mi wnaeth Gavin Henson lofnodi cytundeb wyth mis gyda’r Gleision ym mis hydref y llynedd ac ar y pryd dywedodd ei fod yn falch o fod yn ôl yn chwarae yng Nghymru. “Dwi’n falch o’r cyfle mae’r Gleision wedi ei roi i mi,” meddai.
Mi wnaeth y Gleision golli’r gêm o 31-3 nos Wener.