Y Bala 0-4 Y Seintiau Newydd
Mae’r Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan Cymru ar ôl curo’r Bala mewn steil o flaen camerâu Sgorio yng Nghoedlan y Parc, Aberystwyth, brynhawn Sadwrn.
Sgoriodd Nicky Ward, Greg Draper a Ryan Fraughan yn y 25 munud agoriadol cyn i Aeron Edwards ychwanegu pedwaredd toc wedi’r awr. Gorffennodd y Bala’r gêm gyda deg dyn wedi i Lee Hunt dderbyn cerdyn coch.
Airbus 1-4 Derwyddon Cefn
Mae stori dylwyth teg Derwyddon Cefn yng Nghwpan Cymru yn parhau yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus yn y rownd gynderfynol yn erbyn Airbus brynhawn Sadwrn. Mae’r tîm o Gynghrair Undebol y Gogledd yn y rownd derfynol yn erbyn y Seintiau Newydd ar ôl trechu gwrthwynebwyr o’r Uwch Gynghrair am y trydydd tro yn y gystadleuaeth y tymor hwn.
Roedd y Derwyddon ar y blaen ar Belle View, Y Rhyl, wedi 24 munud yn dilyn peniad perffaith Tony Cann o groesiad cywir Warren Duckett. Ac roedd hi’n 2-0 saith munud cyn yr egwyl wedi gôl i’w rwyd ei hun gan gapten Airbus, Danny Taylor.
Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ond roedd Airbus yn ôl yn y gêm o dan amgylchiadau dadleuol wedi chwe munud o’r ail hanner. Gwyrodd y bêl oddi ar ben glin Mark Griffiths i’w rwyd ei hun ac er bod y dyfarnwr wedi chwibanu ym mhell cyn hynny am ryw reswm fe ganiatawyd y gôl!
Roedd y Derwyddon yn gandryll ond cafwyd yr ymateb gorau posib ganddynt bedwar munud yn unig yn ddiweddarach pan gafodd Andy Swarbrick flaen ei droed i gic rydd hir Tom McElwell i guro Andy Mulliner yn y gôl i Airbus.
A choronwyd y perfformiad ddeg munud o’r diwedd pan sgoriodd Swarbrick ei ail. Gwnaeth yn dda i guro dau amddiffynnwr cyn ergydio heibio Mulliner o ongl dynn.
Buddugoliaeth wych a chanlyniad cofiadwy i’r Derwyddon felly ond tasg anodd iawn yn ei wynebu yn y rownd derfynol.
Derwyddon 2-1 Caerfyrddin
Chwaraewyd un gêm yn Uwch Gynghrair Cymru brynhawn Sadwrn hefyd a’r Drenewydd oedd yn fuddugol yn y frwydr tua’r gwaelodion.
Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr ym Mharc Latham fe aeth y tîm cartref ar y blaen toc cyn yr awr pan rwydodd Luke Boundford.
A dyblwyd y fantais wedi 70 munud pan gurodd Nick Rushton Mike Lewis yn y gôl i Gaerfyrddin.
Cafwyd diweddglo diddorol diolch i gôl Nick Harrhy i Gaerfyrddin wyth munud o’r diwedd ond daliodd y Drenewydd eu gafael ar y tri phwynt.
Mae’r Drenewydd yn aros ar waelod yr Uwch Gynghrair er gwaethaf y fuddugoliaeth gyda Chaerfyrddin yn parhau yn yr unfed safle ar ddeg ond mae’r bwlch rhwng y ddau dîm bellach i lawr i bedwar pwynt.
Lido Afan 2-1 Castell Nedd
Mae Lido Afan yn rownd derfynol Cwpan y Gynghrair ar ôl trechu Castell Nedd yn y rownd gynderfynol. Roedd gan Lido gôl o fantais ers y cymal cyntaf ar y Gnoll ddeg diwrnod yn ôl a sicrhawyd eu lle yn y rownd derfynol gyda buddugoliaeth gartref o 2-1 yn Stadiwm Marstons brynhawn Sadwrn.
Roedd hi’n gwbl gyfartal dros y ddau gymal yn dilyn gôl Craig Hughes i Gastell Nedd wedi ychydig dros hanner awr ond newidodd popeth mewn cyfnod o dri munud yn gynnar yn yr ail hanner.
Sgoriodd Daniel Thomas wedi 49 munud a Carl Payne wedi 51 munud wrth i Lido ennill o 2-1 ar y diwrnod ac o 3-1 dros y ddau gymal.
Caiff Lido Afan wybod nos Fawrth pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn y rownd derfynol wedi i’r Drenewydd a’r Seintiau Newydd chwarae ail gymal eu rownd gynderfynol hwy.