Y Bala 0–4 Y Seintiau Newydd

Mae’r Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan Cymru ar ôl curo’r Bala mewn steil o flaen camerâu Sgorio yng Nghoedlan y Parc, Aberystwyth, brynhawn Sadwrn.

Dim ond un tîm oedd ynddi yn yr hanner cyntaf wrth i’r Seintiau rwydo tair yn y 25 munud cyntaf ac er i’r Bala wella ychydig wedi hynny ychwanegwyd pedwaredd yn yr ail hanner.

Dechrau Gwyrthiol gan y Seintiau

Bu bron i Mark Jones roi’r Bala ar y blaen wedi saith munud a hynny mewn steil. Curodd ddau amddiffynnwr cyn taro chwip o hanner foli fodfeddi heibio postyn Paul Harrison.

Ond roedd y Seintiau ar y blaen ddau funud yn ddiweddarach wedi iddynt wrthymosod yn slic ar ôl amddiffyn cic gornel. Cafwyd gwaith da gan Alex Darlington a Tom Roberts ar yr asgell chwith cyn i Greg Draper sodli croesiad Roberts i lwybr Nicky Ward yn y cwrt chwech. Curodd yntau Terry McCormick i roi mantais gynnar i’w dîm.

Roedd hi’n ddwy wedi dim ond 12 munud ac roedd hon yn dipyn o gôl hefyd. Derbynniod Draper y bêl gyda’i gefn tuag at y gôl 25 llath allan, cymerodd un cyffyrddiad i reoli a throi cyn taro foli wych heibio McCormick gyda’i ail gyffyrddiad. Gôl wych a dechrau gwych i’r Seintiau.

Parhau i bwyso a wnaeth y Seintiau a daeth y drydedd gôl wedi 25 munud ac oedd, roedd hon yn gôl wych hefyd. Dyrnodd McCormick groesiad isel Aeron Edwards allan o’r cwrt cosbi ac roedd hi’n ymddangos fod y perygl drosodd. Ond daeth y bêl i Ryan Fraughan a churodd yntau amddiffynnwr gyda’i gyffyrddiad cyntaf cyn crymanu ergyd droed chwith i gornel uchaf y rhwyd o 18 llath.

3-0 a’r gêm fwy neu lai ar ben gyda dros awr ar ôl.

Y Bala’n Gwella

Fe wellodd y Bala ychydig tuag at ddiwedd yr hanner cyntaf ac yn wir, hwy oedd y tîm gorau yn chwarter awr agoriadol yr ail hanner.

Wedi dweud hynny, dim ond un cyfle o werth a grewyd gan dîm Colin Caton a daeth hwnnw i Chris Mason wedi 54 munud. Gwnaeth Lee Hunt yn dda i ddod o hyd iddo ar ochr y cwrt chwech ac er bod arbediad Harrison â’i draed yn un da fe ddylai Mason fod wedi sgorio.

Dechreuodd y Seintiau reoli unwaith eto wedi hynny a sicrhawyd y fuddugoliaeth pan sgoriodd Edwards y bedwaredd toc wedi’r awr ac efallai mai hon oedd yr orau eto. Methodd y Bala a chlirio’r bêl ar ôl cic gornel a phan ddaeth y bêl i Edwards ar gornel y cwrt cosbi fe darodd ergyd berffaith ar draws y gôl i’r gornel isaf. Dim gobaith i McCormick a’r Seintiau yn sâff yn y rownd derfynol.

Cafodd Darlington gyfle i ychwanegu pumed wedi 70 munud ond llwyddodd McCormick i arbed gyda’i droed.

Mynd o Ddrwg i Waeth

Aeth pethau o ddrwg i waeth i’r Bala wedi 77 munud pan dderbyniodd Lee Hunt gerdyn coch. Newydd dderbyn cerdyn melyn am gwyno yr oedd y blaenwr pan dderbynniodd ail am drosedd flêr ar Phil Baker.

A gallai pethau fod wedi mynd yn waeth i’r Bala yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm ond gwnaeth McCormick arbediad gwych i atal ergyd nerthol yr eilydd, Craig Jones.

4-0 y sgôr terfynol felly a’r Seintiau yn mynd i’r rownd derfynol mewn steil, lle byddant yn wynebu Derwyddon Cefn.

Roedd hwn yn berfformiad o safon gan y Seintiau ac roedd Craig Harrison, y cyfarwyddwr pêl droed yn hapus iawn wedi’r gêm:

“Fe wnaethon ni’n dda iawn heddiw o’r chwiban gyntaf. Mae gemau yn erbyn y Bala yn anodd iawn fel arfer ond heddiw fe enillon ni’r gêm yn haeddianol.”