Gweilch 41–10 Treviso

Cododd y Gweilch i’r ail safle yn y RaboDirect Pro12 gyda buddugoliaeth swmpus yn erbyn Treviso yn Stadiwm Liberty nos Sadwrn. Cipiodd y rhanbarth eu pwynt bonws cyntaf yn y gynghrair y tymor hwn gyda dau gais hanner cyntaf a thri yn yr ail.

Hanner Cyntaf

Cyfnewidiodd Dan Biggar a Kristopher Burton gic gosb yr un yn y chwarter awr agoriadol cyn i Ashley Beck sgorio cais cyntaf y gêm wedi 17 munud.

Gwnaeth Biggar yn dda i ddal ei gic uchel ef ei hun cyn pasio i Hanno Dirksen ar yr asgell a phasiodd yntau yn ôl i mewn i Beck groesi’n rhwydd. Llwyddodd Biggar gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb arall wedi 23 munud i ymestyn y bwlch i ddeg pwynt.

Daeth ail gais y Gweilch wedi 28 munud ac roedd hwn yn gais cofiadwy. Un prop, Adam Jones, yn bylchu o’r llinell 22 medr cyn pasio i’r prop arall, Paul James, i groesi’r gwyngalch. Roedd hi’n ymddangos ei fod wedi colli gafael ar y bêl wrth dirio ond caniatawyd y cais gan y dyfarnwr teledu, 20-3 yn dilyn trosiad syml Biggar.

Ail Hanner

Dim ond dau funud o’r ail hanner fu rhaid i’r Gweilch aros am y trydydd cais a Beck oedd y sgoriwr unwaith eto. Lledwyd y bêl i’r asgell dde ble’r oedd y canolwr yn aros ac roedd ffug bas syml yn ddigon i guro’r amddiffyn a sgorio’r cais. Llwyddodd Biggar gyda throsiad anodd o’r ystlys i ymestyn y fantais i 27-3.

Roedd gan y Gweilch bron i 40 munud i gipio pwynt bonws felly ond Treviso a gafodd y sgôr nesaf wedi 55 munud. Ac er nad oedd yr Eidalwyr wedi cynnig fawr ddim cyn hynny roedd hwn yn gais gosgeiddig iawn. Gwrthymosodiad da o’u hanner eu hunain a’r asgellwr, Ludovico Nitoglia, yn croesi. 27-10 yn dilyn trosiad Alberto Di Bernardo.

Bu rhaid i Treviso chwarae’r deg munud olaf gyda phedwar dyn ar ddeg wedi i Tommaso Benvenuti gael ei anfon i’r gell gosb wedi 71 munud a daeth y pedwerydd cais a’r pwynt bonws hir ddisgwyliedig yn fuan wedyn. Chwalodd sgrym y Gweilch eu gwrthwynebwyr a rheolodd yr wythwr, Joe Bearman, y bêl yn gelfydd wrth y bôn cyn tirio. Parhau a wnaeth perfformiad da Biggar o flaen y pyst, 34-10 gydag wyth munud ar ôl.

A gyda’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws yn sâff rhoddwyd yr eisin ar y gacen ddau funud yn ddiweddarach pan sgoriodd yr eilydd, Tom Isaacs, gais olaf a chais gorau’r gêm. Enillodd Shane Williams dir ar yr asgell chwith cyn derbyn cefnogaeth gan Beck ac yna Isaacs. Cais gwych i’r Gweilch a buddugoliaeth swmpus o 41-10 yn dilyn trosiad llwyddiannus arall gan Biggar.

Ymateb

Mae’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws yn codi’r Gweilch i’r ail safle yn y RaboDirect Pro12.

Os allant aros yn y safle hwnnw bydd gêm gartref yn eu haros yn y rownd gynderfynol ac os felly efallai y caiff Shane Williams un gêm arall ar y Liberty. Ond mae’n bosib mai’r gêm hon fydd ei olaf ac roedd yn ddyn hapus iawn yn dilyn y fuddugoliaeth:

“Ennill oedd yn bwysig heno wrth gwrs, ond y ffordd chwaraeon ni, roedd hi’n bleser bod yn rhan ohono. Mae Treviso yn dîm da ond pob clôd i’n bechgyn ni roedd yr ymdrech yno reit o’r dechre.”