Casnewydd 1–0 Gateshead

Rhoddwyd hwb i obeithion Casnewydd o aros yn Uwch Gynghrair y Blue Square gyda buddugoliaeth yn erbyn Gateshead ar Barc Sbyty brynhawn Sadwrn. Roedd gôl gynnar Ryan Charles yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i dîm Justin Edinburgh a’u cadw allan o safleoedd y gwymp.

Cafodd Gary Warren gyfle i roi’r tîm cartref ar y blaen wedi dim ond pum munud ond llwyddodd gôl-geidwad Gateshead, Paul Farman, i arbed ei ergyd.

Ond roedd Casnewydd ar y blaen saith munud yn ddiweddarach wedi i Andy Sandell ddod o hyd i Charles yn y cwrt chwech i roi’r cyfle iddo yntau rwydo heibio i Farman.

Roedd Charles yn ei chanol hi eto bum munud cyn yr egwyl. Y tro hwn, troseddodd Carl Magnay yn ei erbyn a derbyn cerdyn coch – gôl o fantais a dyn o fantais i Gasnewydd yn yr ail hanner.

Efallai nad oedd fawr o syndod gweld y tîm cartref yn rheoli’r meddiant wedi’r egwyl felly a chawsant gyfleoedd i sgorio ail gôl.

Daeth Sam Foley yn agos iawn gydag ergyd wedi 70 munud ond gwnaeth Farman arbediad gwych. Ac roedd golwr yr ymwelwyr yn brysur eto funudau’n ddiweddarach pan arbedodd ddwy ergyd gan Elliott Buchanan.

Doedd dim ail i fod felly ond roedd un gôl yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt er y bu rhaid i Karl Darlow yn y gôl i Gasnewydd wneud arbediad yn yr amser a ganiateir am anafiadau pan ergydiodd John  Gillies.

Mae Casnewydd yn aros yn yr ugeinfed safle yn y tabl er gwaethaf y tri phwynt ond maent yn cau’r bwlch ar rai o’r timau uwch eu pennau ac mae ganddynt sawl gêm wrth gefn.