Caergrawnt 1–1 Wrecsam

Mae gobeithion Wrecsam o orffen ar frig Uwch Gynghrair y Blue Square yn fain iawn yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Caergrawnt yn Stadiwm Abbey brynhawn Sadwrn. Er i’r Dreigiau achub pwynt gyda gôl hwyr go brin y bydd hynny’n ddigon bellach.

Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr fe roddodd Tom Shaw y tîm cartref ar y blaen wedi dim ond tri munud o’r ail gyfnod gydag ergyd gywir i’r gornel isaf o ochr y cwrt cosbi.

Bu bron i Harry Pell ddyblu mantais Caergrawnt bum munud yn ddiweddarach ond arbedodd Joslain Mayebi ei gynnig.

Bu rhaid i Mayebi fod yn effro eto yn y chwarter awr olaf i atal Michael Gash a Shaw cyn i’r Dreigiau daro’n ôl yn hwyr hwyr yn y gêm.

Roedd pedwar munud o’r amser a ganiateir am anafiadau wedi eu chwarae pan ddaeth y bêl i’r eilydd, Robert Ogleby, yn y cwrt cosbi a chadwodd yntau ei ben i guro Danny Naisbitt ac achub pwynt i’w dîm.

Drama hwyr i’r Dreigiau felly ond go brin y bydd gêm gyfartal yn ddigon i dîm Andy Morrell wrth iddi edrych yn fwyfwy tebygol mai’r gemau ail gyfle fydd gobaith gorau Wrecsam o esgyn o’r Gyngres eleni.

Mae’r Dreigiau bellach wyth pwynt y tu ôl i Fleetwood ar y brig wedi iddynt hwy guro Caerfaddon oddi cartref heddiw.