Caerdydd 0–0 Millwall

Collodd Caerdydd gyfle da i ddychwelyd i safleoedd ail gyfle’r Bencampwriaeth amser cinio ddydd Sadwrn wrth i’w gêm yn erbyn Millwall yn Stadiwm Dinas Caerdydd orffen yn ddi sgôr. Hon oedd pedwaredd gêm gyfartal o’r bron yr Adar Gleision a bydd rhaid iddynt ddechrau ennill gemau yn fuan os ydynt yn gobeithio gorffen y tymor yn y chwech uchaf.

Er gwaethaf y sgôr terfynol doedd dim prinder cyfleoedd yn y gêm wrth i’r ddau dîm ddod yn agos at sgorio. Daeth cyfle cyntaf Caerdydd i Stephen McPhail wedi 12 munud ond llwyddodd gôl-geidwad yr ymwelwyr, Maik Taylor, i arbed.

Fe gafodd Taylor ei guro gan Joe Mason wedi hynny ond cafodd ergyd y blaenwr ei chlirio oddi ar y llinell.

Taylor oedd y prysuraf o’r ddau golwr yn yr ail hanner hefyd a bu rhaid iddo fod ar flaenau ei draed ar ddau achlysur yn y munudau cyntaf wedi’r egwyl, i atal ergyd Kenny Miller i ddechrau ac yna peniad Mason.

Daeth cyfle gorau Millwall i James Henry yn y deg munud olaf ond ergydiodd ym mhell dros y trawst pan ddylai fod wedi sgorio.

Fe wnaeth Andy Keogh ddod o hyd i gefn y rhwyd i’r ymwelwyr ac felly hefyd Aron Gunnarsson i Gaerdydd ond ni chaniatawyd y goliau oherwydd camsefyll.

Caerdydd a gafodd y gorau o’r meddiant a’r cyfleoedd ond cawsant eu cosbi am fod mor wastraffus o flaen gôl wrth iddynt orfod bodloni ar gêm gyfartal arall.

Mae’r pwynt serch hynny yn codi Caerdydd i’r seithfed safle yn y Bencampwriaeth dros dro pryn bynnag.