Leon Britton
Mae Leon Britton, chwaraewr canol y cae tîm pêl-droed Abertawe, wedi llofnodi cytundeb newydd â’r clwb fydd yn ei gadw yn Stadiwm y Liberty hyd nes haf 2015.

Roedd rheolwr Abertawe, Brendan Rogers, yn awyddus i gadw’r chwaraewr oherwydd ei fod wedi bod yn chwarae mor dda yn ystod y tymor.

Meddai Leon Britton, “Roedd yn benderfyniad hawdd i mi ei gymryd. Mewn byd delfrydol mi faswn i’n hoffi aros yn Abertawe hyd nes fy ymddeoliad gan fy mod yn caru bod yma ac mae dyfodol disglair i’r clwb.

“Mae ein tymor cyntaf yn Uwch Gynghrair Barclays wedi mynd yn dda hyd yma ac mae pawb yn awyddus i adeiladu ar hynny. Os wnawn ni i gyd aros efo’n gilydd, yna, fel y dywedais i, mae’r dyfodol yn ddisglair.”