Glasgow 31–3 Gleision

Cafodd y Gleision daith i’w anghofio i Firhill i wynebu Glasgow yn y RaboDirect Pro12 nos Wener. Mae gobeithion y rhanbarth o Gymru o gyrraedd y pedwar uchaf drosodd i bob pwrpas ar ôl iddynt ildio pedwar cais mewn perfformiad siomedig.

Hanner Cyntaf

Glasgow oedd y tîm gorau o bell ffordd yn y chwarter awr cyntaf ond parhau yn ddi sgôr a wnaeth hi serch hynny.

Ond daeth y cais agoriadol i’r Albanwyr wedi 17 munud. Roedd sgrym y Gleision o dan bwysau cyson ac roeddynt yn ei chael hi’n anodd dianc o’i hanner eu hunain. A phan ddaeth y bêl i’r wythwr, Ryan Wilson, yng nghysgod y pyst fe hyrddiodd drosodd i roi ei dîm ar y blaen, 7-0 yn dilyn trosiad Duncan Weir.

Dylai Glasgow fod wedi sgorio ail gais wedi hanner awr ond ceisiodd y blaenasgellwr, Chris Fusaro, fynd ei hun yn hytrach na phasio i’r asgellwr, Federico Aramburu, a oedd yn gwbl rydd. Dihangfa i’r Gleision felly neu hanner dihangfa pryn bynnag gan i Weir ymestyn mantais ei dîm i ddeg pwynt gyda chic gosb yn fuan wedyn.

Methodd Leigh Halfpenny a Weir gic gosb yr un yn y munudau olaf a methodd Weir gyda chynnig am gôl adlam hefyd wrth iddi aros yn 10-0 i Glasgow ar yr egwyl.

Ail Hanner

Daeth ail gais Glasgow wedi dim ond pedwar munud o’r ail hanner a chais tebyg iawn i’r cyntaf ydoedd hefyd, y blaenwyr yn gwneud y gwaith caib a rhaw wrth y llinell gais a’r cyfle yn dod i Wilson groesi o bum medr unwaith eto. Ychwanegodd Weir y ddau bwynt i ymestyn y fantais i 17 pwynt.

Daeth buddugoliaeth brin yn y sgrym i’r Gleision wedi 51 munud, Wilson yn cael ei gosbi am ddefnyddio’i ddwylo a Halfpenny yn cicio pwyntiau cyntaf y Gleision, 17-3 gydag ychydig llai na hanner awr i fynd.

Ond chwalwyd unrhyw obeithion o daro’n ôl pan sgoriodd Fusaro drydydd cais y tîm cartref toc wedi’r awr. Bylchodd y canolwr, Alex Dunbar, yn dda cyn dadlwytho i’r blaenasgellwr sgorio cais rhwydd.

Ac yn dilyn sawl saib hir i drin anafiadau ar y cae fe roddwyd yr hoelen olaf yn arch y Gleision gyda phedwerydd cais i’r Albanwyr. Dunbar gyda’r bylchiad gwreiddiol unwaith eto a’r gefnogaeth y tro hwn yn dod gan y mewnwr, Chris Cusuter, ac yna’r asgellwr, Colin Shaw.

Llwyddodd yr eilydd faswr, Ruaridh Jackson, gyda’r ddau drosiad wrth iddi orffen yn 31 -3 o blaid Glasgow. Pwynt bonws i’r Albanwyr felly ond dim byd ond taith ddiflas yn ôl i dde Cymru i’r Gleision.

Mae’r Gleision yn aros yn seithfed yn y Pro12 er gwaethaf y golled drom ond mae talcen caled bellach yn ei wynebu os am gyrraedd y pedwar uchaf, maent ddeg pwynt i ffwrdd gyda dim ond tair gêm ar ôl.