Caeredin 26–23 Scarlets

Colli o drwch blewyn fu hanes y Scarlets yn erbyn Caeredin yn Murrayfield yn y RaboDirect Pro12 nos Wener.

Er bod y tîm cartref yn gyfforddus ar y blaen ar yr egwyl fe darodd y Scarlets yn ôl gyda cheisiau Andy Fenby a Jonathan Davies yn yr ail hanner i ddod a’r gêm yn gyfartal. Ond llwyddodd Graig Laidlaw gyda chic gosb hwyr i gipio’r fuddugoliaeth i’r Albanwyr.

Hanner Cyntaf

Er i Rhys Priestland gicio’r Scarlets dri phwynt ar y blaen wedi tri munud, yr Albanwyr a oedd ar y blaen erbyn hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf diolch i ddwy gic gosb o droed Laidlaw.

Aeth y tîm cartref ym mhellach ar y blaen yn fuan wedyn pan sgoriodd y blaenasgellwr, David Denton, gais cyntaf y noson. Llwyddodd Laidlaw gyda’r trosiad i ymestyn mantais ei dîm i ddeg pwynt.

Roedd y bwlch hwnnw i lawr i saith pwynt toc wedi hanner awr diolch i ail gic gosb lwyddiannus Priestland.

Roedd pac y Scarlets dan bwysau ar ddiwedd yr hanner ac o ganlyniad fe dderbyniodd dau aelod o’r rheng flaen gardiau melyn. Anfonwyd Deacon Manu a Matthew Rees i’r gell gosb am ddeg munud a gyda’r Scarlets i lawr i dri dyn ar ddeg doedd fawr o syndod gweld y dyfarnwyr yn rhoi cais cosb i’r tîm cartref yn yr eiliadau olaf cyn yr egwyl.

Llwyddodd Laidlaw gyda’r trosiad rhwydd o flaen y pyst i gwblhau diweddglo trychinebus i’r hanner cyntaf i’r Scarlets.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ail hanner yn well i’r ymwelwyr o Gymru wrth i Priestland gau’r bwlch gyda chic gosb wedi 53 munud.

Ac roedd Bois y Sosban yn ôl yn y gêm o ddifrif ddau funud yn ddiweddarach diolch i gais yr asgellwr, Fenby. Ychwanegodd Priestland y trosiad i gau’r bwlch i bedwar pwynt gydag ychydig dros chwarter y gêm ar ôl.

Llwyddodd Laidlaw gyda chic gosb arall i roi saith pwynt o fantais i’r Albanwyr ond tarodd y Scarlets yn ôl gyda chais gan y canolwr, Jonathan Davies, chwarter awr o’r diwedd.

Roedd y sgôr yn gyfartal yn dilyn trosiad yr eilydd faswr, Stephen Jones, ond Caeredin a gafodd y gair olaf pan drosodd Laidlaw dri phwynt i ennill y gêm i’r tîm cartref wyth munud o’r diwedd.

Y Scarlets yn dod yn agos at daro’n ôl felly ond yn gorfod bodloni ar bwynt bonws yn unig yn y diwedd. Aros yn chweched safle’r RaboDirect Pro12 y mae Bois y Sosban er gwaethaf yr un pwynt hwnnw, maent bellach bedwar pwynt i ffwrdd o’r pedwar uchaf gyda dim ond tair gêm ar ôl.