Faletau - Sgoriwr y Dreigiau
Dreigiau 19–27 Connacht

Mae gobeithion y Dreigiau o chwarae yng Nghwpan Heineken y tymor nesaf yn fain iawn wedi iddynt golli yn erbyn Connacht ar Rodney Parade nos Wener yn y RaboDirect Pro12. Sgoriodd Fetu’u Vainikolo ddau gais i’r Gwyddelod a’r cwbl a wnaeth cais hwyr Toby Faletau i’r Dreigiau oedd rhoi gwedd fwy parchus ar y canlyniad.

Er i’r Dreigiau gael dechrau da diolch i gic gosb Lewis Robling roeddynt ar ei hôl hi wedi deg munud yn dilyn cais yr asgellwr, Vainikolo, a throsiad y maswr, Miah Nikora.

Ymatebodd y Dreigiau’n syth gydag ail gic gosb gan Robling cyn i Nikora lwyddo gyda thair ymgais at y pyst i ymestyn mantais y Gwyddelod i ddeg pwynt wedi hanner awr o chwarae.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i’r Dreigiau wedi 33 munud pan dderbyniodd Dan Lydiate gerdyn melyn. Roedd hi’n 19-6 wedi i Nikora gicio’r tri phwynt canlynol ond llwyddodd pedwar dyn ar ddeg y Dreigiau i gael y gair olaf am yr hanner cyntaf gyda thrydedd cic gosb lwyddiannus Robling, 19-9 ar hanner amser.

Dechreuodd yr ail hanner yn debyg iawn i’r cyntaf, gyda chais i Vainikolo. Croesodd y chwaraewr o Tonga am ei ail gais yn eiliadau cyntaf yr ail hanner yn dilyn sawl ymgais wan i’w daclo ac er i Nikora fethu’r trosiad roedd yr ymwelwyr ar y blaen o 24-9.

Caeodd Robling y bwlch gyda chic gosb arall hanner awr o’r diwedd ond adferodd Nikora y 15 pwynt o fantais gyda thri phwynt arall toc cyn yr awr.

Cyfle prop Connacht, Ronan Loughney, i dreulio deg munud yn y gell gosb oedd hi ar yr awr ond methodd y Dreigiau a manteisio.

Fe wnaeth cais hwyr Toby Faletau a throsiad yr eilydd faswr, Steffan Jones, wneud pethau yn ychydig bach mwy diddorol yn y munudau olaf ond daliodd Connacht eu gafael ar fuddugoliaeth gymharol gyfforddus.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Dreigiau yn wythfed safle tabl y RaboDirect Pro12 ac mae eu gobeithion o chwarae yng Nghwpan Heineken y tymor nesaf yn prysur bylu.